Pryf lludw
Cramennog yw pryf lludw (lluosog pryfaid lludw) neu fel y'u gelwir yn Ne Cymru: moch coed. Mae gan y pryf lludw sgerbwd allanol hir a segmentiedig, gydag 14 aelod cymalog. Mae pryfaid lludw yn aelod o'r Oniscidea o fewn Isopoda, gyda dros 3,000 o rywiogaethau y gwyddom amdanynt. Mewn gwrthwyneb i'r enw, nid pryf yw'r pryf lludw.
Mae pryfaid lludw yn perthyn i rywiogaeth Armadillidium, ac yn gallu rholio i fyny'n belen sydd bron yn berffaith crwn er mwyn amddiffyn eu hunain.
Ecoleg [golygu]
Mae pryfaid lludw angen lleithder er mwyn gallu byw oherwydd eu bod yn anadlu drwy degyll, o'r enw pseudotrachea, ac felly canfyddir hwy mewn llefydd llaith a thywyll, megis o dan cerrig neu fonyn coeden. Maent fel arfer yn nosol ac yn detritysyddion, gan fwydo yn bennaf ar ddeunydd planhigion marw, a dyma o le caent eu henw, ond maent hefyd wedi eu harsylwi'n bwyta mefus ac eginblanhigion tyner. Mae pryfaid lludw'n helpu i ailgylchu maeth yn ôl i'r ddaear.