Prosiect Al Baydha

Oddi ar Wicipedia

Mae Prosiect Al Baydha (Saesneg: Al Baydha Project; Arabeg: مشروع البيضاء "Y Prosiect Gwyn") yn gynllun amgylcheddol a chymdeithasegol tymor hir i adnewyddu tirwedd a bywyd trigolion ardal Al Baydha, sef dyffryn sydd 40 km i'r de ddwyrain o ddinas Meca yn Sawdi Arabia.

Nodweddion y Prosiect[golygu | golygu cod]

Lleolir Al Baydha mewn ardal wledig yn nhalaith Makkah, rhyw 50 km i'r de o ddinas grefyddol ac hanesyddol Meca. Trwy ddefnyddio dulliau paramaethu (permaculture) a chynllunio hydrolegol mae'n ymgeisio i:

  • adfywio'r tir (restoration)
  • lleihau tlodi
  • digeli diwylliant a threftadaeth

Mae dyffryn Al Baydha yn gorwedd wrth droed mynyddoedd yr Hijaz ac mae'n dir crin a charregog. Llwythi Bedwin yw mwyafrif trigolion yr ardal.[1][2]

Mae pwyslais y prosiect ac greu economi i drigolion Al Baydha sy'n gynaliadwy yn gymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'r prosiect yn cynnwys elfen graidd o hyfforddiant, addysg a chyflogadwyedd y trigolion wrth wireddu ac adeiladu strwythurau ac uchelgais y prosiect.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Prosiect yn 2009 gan yr Americanwr a'r paramaethydd, Neal Spackman[4] a'r cyd-sefydlydd, Mona Hamdy,[5][6] Mae'r prosiect wedi dechrau gweld ffrwyth eu llafur yn ymarferol ac ecolegol.[7]

Yn 2016, derbyniodd Prosiect Al Baydha gymeradwyaeth gan y Tywysog Khaled Al Faisal o Sawdi Arabia, am y gwaith blaengar a wireddwyd gan y brodorion. Nodwyd bod y gwaith gan drigolion Al Baydha yn fodel o ragoriaeth cenedlaethol ym maes dyngarol, hunangynhaliol a blaengarwch.[8]

Nodweddion Ecolegol[golygu | golygu cod]

Uchelgais amgylcheddol Prosiect Al Baydha yw gwyrdroi diffeithio (desertification) drwy dduliau paramaethu. Y bwriad yw trawsffurfio'r ardal mewn i eco system savanna, drwy adfywioad naturiol, pori cadwriaethol (dim gor-bori) a thyfu coed, planhigion a strwythurau bydd yn lleihau anweddiad ac yn cynyddu lleither yn yr awyr.[9][10]

Gwneir hyn gan mwyaf drwy gynheiafu dŵr a hynny gan greu a defnyddio terasau creigiau a gabion (neu 'caergawell' - argaeau bychan i rwystro ac arafu, ond nid stopio, dŵr rhag llifo) yn ogystal â dal dŵr sy'n llifo i'r tir gwastad mewn llinellau traethbantiau (swales - pantiau neu ffosydd bas sy'n dilyn cyfuchlinau (contours) y tir). Mae'r rhain yn eu tro yn cefnogi coed sy'n wrthiannol i sychder, megis coed palmwydden ddatys. Bydd y mesurau yma, yn eu tro, yn helpu lliniaru effeithiau fflachlifau sy'n niweidio'r tirwedd ac yn gadael prin ddim dŵr ar ôl gan bod y llifogydd mor sydyn a nerthol nad yw'n sefyll ar y tir ac yn trylifo fewn i'r ddaear. Trwy wneud hyn bydd y fflachlifau yn y mynyddoedd yn cael eu harnesi i mewn i wadi (nant dymhorol).

Prosiectau Tebyg[golygu | golygu cod]

Ceir prosiect tebyg dan oruchwyliaeth y paramaethydd o Awstralia (a fu'n gynghorydd i Al Baydha), Geoff Lawton yng Ngwlad yr Iorddonen. Mae'r prosiect yn Wadi Rum, yn ne'r wlad ger y Môr Marw, wedi bod yn llwyddiant.[11]

Esboniadau Ffilm o'r Prosiect a'r Technegau[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://permacultureglobal.org/projects/286-al-baydha-project
  2. "Permaculture in Mecca - The Permaculture Research Institute". 18 Tachwedd 2010.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-17. Cyrchwyd 2018-12-03.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-15. Cyrchwyd 2018-12-03.
  5. kharecom (23 Ionawr 2017). "In Dialogue with: Mona Hamdy @ NOVUS 2016" – drwy YouTube.
  6. "Mona Hamdy - THNK School of Creative Leadership".
  7. "Permaculture at the Al-Baydha Project in Saudi Arabia - Neal Spackman, Video 1 - The Permaculture Research Institute". 14 Ionawr 2011.
  8. "الرئيسية - MBC.net". www.mbc.net.
  9. "Planting Days Are Here! (Al Baydha, Saudi Arabia) - The Permaculture Research Institute". 9 November 2012.
  10. "20 months of growth on swales in Saudi Arabia: Two rainfalls since 2010 (greening the desert forum at permies)". www.permies.com.
  11. "From Desert to Oasis in 4 Years". 1 Chwefror 2014.