Power Rangers

Oddi ar Wicipedia

Rhyddfraint adloniant a masnachu Americanaidd yw Power Rangers sydd wedi'i tarddu o gyfres deledu archarwyr gydag actorion byw, yn seiliedig ar y rhyddfraint Siapaniaidd tokusatsu Super Sentai. Cynhyrchwyd y rhaglen gyntaf gan Saban Entertainment, yna gan BVS Entertainment, ac wedyn gan SCG Power Rangers ac mae erbyn heddiw yn cael ei chynhyrchu gan Hasbro. Daw llawer o'r deunydd ar gyfer yr rhaglen o'r gyfres deledu Super Sentai, sydd wedi'i chynhyrchu gan Toei Company.[1] Ymddangosodd y rhaglen Power Rangers gyntaf, Mighty Morphin Power Rangers, ar Awst 28 1993. Daeth y rhaglen a'r teganau (gan Bandai) yn hynod o boblogaidd mewn byr amser.[2] Erbyn 2001, roedd y rhyddfraint wedi cynhyrchu dros $̰̩̩̯6 biliwn mewn gwerthiant teganau.[3]

Mae'r gyfres yn seiliedig ar dîm o bobl ifanc sydd wedi'u dewis a'u hyfforddi gan athro i droi i mewn i'r Power Rangers. Mae'r Power Rangers yn gallu defnyddio grymoedd arbennig a gyrru cerbydau anhygoel o'r enw Zords er mwyn gwrthsefyll gelynion. Yn y gyfres wreiddiol Mighty Morphin, mae'r dewin Zordon yn recriwtio "pobl yn eu harddegau gydag agwedd" i wrthwynebu Rita Repulsa.[4]

Mae'r Rangers yn troi i mewn i archarwyr sy'n gwisgo dillad tynn, a helmed a miswrn ar eu pennau. Maen nhw'n edrych yr un peth heblaw am liw eu siwtiau a dyluniad yr helmedau. Ar ol troi yn Rangers, maen nhw'n meddu ar gryfder, gwytnwch, ystwythder a medr wrth ymladd. Mae gan rai alluoedd goruwchddynol neu seicig fel cyflymdra anhygoel, y gallu i reoli'r elfennau, lefel uwch o amgyffrediad synhwyrau neu anweledigrwydd.[5] Yn ogystal, mae gan bob Ranger arf unigryw, yn ogystal ag arfau cyffredin ar gyfer ymladd ar y ddaear. Pan mae gelynion yn chwyddo i faint anhygoel (mae bron pob un ohonyn nhw yn gwneud hynny). mae'r Rangers yn cyfuno Zords unigol yn un Megazord mawr.

Mae'r Rangers yn gweithredu mewn timau o bump neu dri, gyda rhagor o Rangers yn ymuno â'r tim yn ddiweddarach. Mae pob tim o Rangers, gydag ambell eithriad, yn dilyn yr un set o gonfensiynau a amlinellwyd ar ddechrau'r gyfres gyntaf un, ac sydd wedi'u hailadrodd gan wahanol athrawon mewn cyfresi diweddarachː ni chaiff y Power Rangers ddefnyddio eu grymoedd at fudd personol neu ddwysáu brwydr (oni bai bod y gelyn wedi gwneud yn gyntaf), ac ni chaiff y Power Rangers roi gwybod i'r cyhoedd pwy ydyn nhw. Y gosb am dorri'r rheolau hyn yw colli eu grymoedd.

Daeth y gyfres dan feirniadaeth am fod rhai yn ystyried ei chynnwys yn dreisgar i blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mighty Morphin Power Rangers (1993)
  2. Mighty Morphin Power Rangers (1994)
  3. Mighty Morphin Alien Rangers (1995)
  4. Power Rangers Zeo (1996)
  5. Power Rangers Turbo (1997)
  6. Power Rangers In Space (1998)
  7. Power Rangers Lost Galaxy (1999)
  8. Power Rangers Lightspeed Rescue (2000)
  9. Power Rangers Time Force (2001)
  10. Power Rangers Wild Force (2002)
  11. Power Rangers Ninja Storm (2003)
  12. Power Rangers Dino Thunder (2004)
  13. Power Rangers S.P.D. (2005)
  14. Power Rangers Mystic Force (2006)
  15. Power Rangers Operation Overdrive (2007)
  16. Power Rangers Jungle Fury (2008)
  17. Power Rangers R.P.M. (2009)
  18. Power Rangers Samurai (2011)
  19. Power Rangers Super Samurai (2012)
  20. Power Rangers Megaforce (2013)
  21. Power Rangers Super Megaforce (2014)
  22. Power Rangers Dino Charge (2015)
  23. Power Rangers Dino Super Charge (2016)
  24. Power Rangers Ninja Steel (2017)
  25. Power Rangers Super Ninja Steel (2018)
  26. Power Rangers Beast Morphers (2019)
  27. Power Rangers Super Beast Morphers (2020)
  28. Power Rangers Dino Fury (2021)
  1. "Toei Company Profile| Toei". Cyrchwyd 27 Awst 2012.
  2. "BANDAI Co., Ltd | Global Development". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-01. Cyrchwyd 7 Chwefror 2010.
  3. Kerry, Dollan (26 Tachwedd 2001). "Beyond Power Rangers". Forbes. Forbes, Inc. Cyrchwyd 14 Mawrth 2017.
  4. "Day of the Dumpster". Mighty Morphin Power Rangers. Season 1. Episode 1. 1993-08-28. Fox.
  5. Power Rangers Dino Thunder, Power Rangers S.P.D., Power Rangers Operation Overdrive, Power Rangers Jungle Fury