Pontoise

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pontoise o'r awyr

Pontoise yw prifddinas swyddogol département Val-d'Oise yn région Île-de-France yng ngogledd Ffrainc. Er mai Pontoise yw'r brifddinas swyddogol, saif y ganolfan weinyddol, y préfecture yn nhref gyfagos Cergy, sefyllfa sy'n unigryw yn Ffrainc.

Saif Pontoise ar afon Oise, tua 30 km i'r gogledd-orllewin o ddinas Paris. Bu'r arlunydd Camille Pissarro yn byw yma am gyfnod hir, a darlunir y ddinas mewn llawer o'i weithiau. Bu Sant John Jones o Glynnog Fawr yn byw yma am gyfnod yn y 16eg ganrif. Dyddia Eglwys Gadeiriol Saint-Maclou o'r 12fed ganrif.

Eglwys Gadeiriol Saint-Maclou