Plethyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp canu gwerin Cymraeg yw Plethyn a oedd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995.[1] Yr aelodau yw Roy Griffiths, Linda Healy a John Gittings. Brawd a chwaer ydi Roy a Linda, gyda John Gittins wedi ei eni ar fferm, ger Meifod ym Maldwyn.

Mae eu harddull yn dangos dylanwad canu plygain yr ardal honno: cynghanedd (neu harmoni) glós, syml. Maent wedi poblogeiddio nifer o ganeuon gwerin yn ogystal a chreu caneuon newydd ar arddull draddodiadol. Y dylanwad pennaf ar y grwp oedd Elfed Lewys.

Casgliadau [golygu]

  • Blas y Pridd
  • Golau Tan Gwmwl
  • Rhown Garreg ar Garreg
  • Teulu'r Tir
  • Caneuon Gwerin i Blant
  • Byw a Bod
  • Drws Agored
  • Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl
  • Seidir Ddoe
  • Goreuon Plethyn (2003)

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Gwefan Sain; adalwyd 15/01/2013
Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato