Elfed Lewys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Elfed Lewys (1934-1999) yn bregethwr, yn faledwr, yn actor ac yn hyfforddwr pobl ifanc. Ei dad oedd y Parch Morley Lewis, a'i datcu ar ochr ei dad oedd John Lewis, teiliwr ym Mlaenycoed a ddaeth yn gerddor o fri, yn godwr canu ac yn feirniad eisteddfodau lleol ac yn arweinydd côr. Brawd i John Lewis oedd Howell Elvet Lewis pregethwr, emynydd ac archdderwydd.[1]

Cafodd y Parch Morley Lewis ei ordeinio ym 1928 Modringallt, Y Rhondda, ac felly fe anwyd Elfed yn y Rhondda. Symudodd y teulu yn 1942 i Grymych ac yn 1953 i Gefneithin. Ar ôl penderfynu mynd i'r weinidogaeth aeth Elfed i Goleg Bala-Bangor ym Mangor.

Daeth yn weinidog i Lanfyllin ac er i Elfed adael ei ôl mewn sawl rhan o Gymru, does dim dwywaith mai yn ardal Llanfyllin y bu ei ddylanwad mwyaf yn dilyn iddo sefydlu Aelwyd Penllys.

Cyfeiriadau [golygu]