Philippe VI, brenin Ffrainc
Oddi ar Wicipedia
Brenin Ffrainc o 1328 hyd ei farw oedd Philippe VI neu Philip VI (Philippe de Valois) (1293 - 22 Awst 1350). Mab Charles de Valois, a'i wraig Marguerite d'Anjou, oedd Philippe. Cafodd y llysenw "Le Fortuné" ("Y Ffodus").
Yn 1328, bu farw Siarl IV, heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd yn anicr pwy oedd a hawl i'r goron; ymhlith yr hawlwyr roedd Edward III, brenin Lloegr. Penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni Philip o Valois, oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois. Yn 1337 cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc a dehcreuodd Y Rhyfel Can Mlynedd.
[golygu] Gwragedd
- Jeanne la Boiteuse (1313-1348) (Jeanne de Bourgogne)
- Blanche d'Évreux (1350)
[golygu] Plant
- Ioan II, brenin Ffrainc (26 Ebrill, 1319 – 8 Ebrill, 1364)
- Marie (1326–1333), gwraig Jean de Brabant
- Louis (17 Ionawr, 1328 – 17 Ionawr, 1328)
- Louis (8 Mehefin, 1330 – 23 Mehefin, 1330)
- Jean (1333–1333)
- Philippe de Valois (1336–1375)
- Jeanne (1337–1337)
- Jeanne (1351–1371)
| Rhagflaenydd: Siarl IV |
Brenin Ffrainc 1 Ebrill 1328 – 22 Awst 1350 |
Olynydd: Ioan II |