Pelenpwyl
Memyn rhyngrwyd ar ffurf comics sy'n ceisio rhoi gwedd ddychanol a pherspectif gwahanol ar faterion rhyngwladol ydy Pelenpwyl (Saesneg: Polandball) neu Pelenwlad (Saesneg: countryball) sy'n mynd nôl i Awst 2009. Cynrycha'r sfferau gyda chymeriad dynol iddo wledydd arbennig gan ddefnyddio Saesneg carbwl.
Yn Awst 2009 cafwyd seibr-ryfel rhwng Pwyliaid a defnyddwyr o weddill y byd ar wefan drawball.com a oedd yn rhoi canfas glân i ddefnyddwyr dynnu llun digidol o unrhyw beth y dymunent. Cydweithiodd miloedd o Bwyliaid ar belen gyda baner Gwlad Pwyl arno ac enw'r wlad. Ond cydweithiodd gweddill y byd i orchuddio'r belen gyda swastica, gyda chymorth gwefan 4chan.[1][2]
Er enghraifft, mae rhai o'r comics yn gwneud hwyl am y ffaith nad yw Gwlad Pwyl wedi cyrraedd y gofod, ond fod Rwsia wedi gwneud hynny ers talwm.
Ceir engreifftiau eraill o belipwyl: mae'r belenpwyl sy'n cynrychioli Lloegr yn gwisgo het sidan gyda chantel lydan (i gynrychioli John Bull, mae'n debyg) a chynrychiolir Israel gyda chiwb a Kazakhstan fel bricsen.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Orliński, Wojciech (16 Ionawr 2010). "Wyniosłe lol zaborców, czyli Polandball". Gazeta Wyborcza. http://wyborcza.pl/1,86116,7462232,Wyniosle_lol_zaborcow__czyli_Polandball.html. Adalwyd 25 Mawrth 2012.
- ↑ Zapałowski, Radosław (15 Chwefror 2010). "Znowu lecą z nami w... kulki" (in Pwyleg). Cooltura. http://www.elondyn.co.uk/newsy,wpis,7731. Adalwyd 22 Mawrth 2012.
- ↑ "Int". Lurkmore.to. 26 December 2011. http://lurkmore.to/index.php?title=Int&oldid=1561834#Polandball. Adalwyd 27 Mawrth 2012.
