P. C. Bartrum
Oddi ar Wicipedia
Meteorolegydd ac ysgolhaig Seisnig yn arbenigo mewn achau Cymreig oedd Peter Clement Bartrum (4 Rhagfyr 1907 - 14 Awst 2008).
Ganed ef yn Llundain a bu'n gweithio fel meteorolegydd i'r Gwasanaeth Trefedigaethol rhwng 1932 a 1955. Treuliodd ran helaeth o'i oes yn ymchwilio i'r llawysgrifau achyddol Cymreig o'r Canol Oesoedd, gan ddysgu Cymraeg i wneud hynny. Ystyrid ef y prif awdurdod ar y pwnc. Roedd ganddo hefyd ddiddordeb yn y chwedlau cynnar am Arthur.
Cyhoeddiadau [golygu]
- Early Welsh Genealogical Tracts (1966)
- Welsh Genealogies AD 300-1400 (1974)
- Welsh Genealogies AD 1400-1500 (1983)
- A Welsh Classical Dictionary: people in history and legend up to about AD 1000 (1993)