Owen Jones (Meudwy Môn)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Golygydd a hanesydd oedd Owen Jones (18061889), a oedd yn adnabyddus i'w gyfoeswyr wrth yr enw barddol Meudwy Môn.

Ganed Owen Jones ym mhlwyf Llanfihangel Ysgeifiog, Môn yn 1806. Daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1842 ac ymroddodd dros achosion y Feibl Gymdeithas a Dirwest.

Ef oedd golygydd cyntaf Cronicl yr Oes, yn 1835, ond rhoddodd heibio'r swydd i ofal Roger Edwards ar ôl dau rifyn yn unig.

Cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur dau lyfr sydd â lle pwysig yn hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn y 19eg ganrif, sef Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol (1875), Gwyddoniadur Cymru ei ddydd, a'r gyfrol uchelgeisiol Ceinion Llenyddiaeth Gymraeg (1876). Mae'r ail kyfr o ddiddordeb hynafiaethol yn unig erbyn heddwi, ond erys Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol yn ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.