Oppidum Manching

Oddi ar Wicipedia
Oppidum Manching
MathOppidum, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManching Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau48.7167°N 11.5167°E Edit this on Wikidata
Map
Model o'r porth dwyreiniol.

Roedd Oppidum Manching yn un o drefi caerog (Oppidum) y Celtiaid, gerllaw Manching yn nhalaith Oberbayern yn yr Almaen. Nid oes cofnod beth oedd enw'r trigolion ar yr oppidum. Sefydlwyd yr oppidum yn y 3g CC. a pharhaodd tan tua 50−30 CC.. Yn ystod cyfnod y diwylliant La Tène yn ail hanner yr 2g CC., cyrhaeddodd yr oppidum ei maint mwyaf, gydag arwynebedd o tua 380 hectar. Yr adeg honno credir fod 5,000 hyd 10,000 o bobl yn byw tu mewn i'r muriau, oedd yn 7.2 km o hyd; felly roedd Manching yn un o'r trefi mwyaf i'r gogledd o'r Alpau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r oppida, roedd ar wastadedd yn hytrach nag ar fryn, gerllaw'r fan lle mae Afon Paar yn llifo i mewn i Afon Donaw. Efallai fod Manching yn brifddinas llwyth y Vindeliciaid.

Bu rhywfaint o gloddio archaeolegol yn y 19g. Dinistriwyd cryn dipyn o'r safle pan adeiladwyd maes awyr milwrol yn 1936−38. Ers 1955 mae llawer o gloddio wedi bod ar y safle, ac ystyrir mai Manching sydd wedi ei harchwilio'n fwyaf trylwyr o holl oppida canolbarth Ewrop.