Noel Lloyd
Noel Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | Noel Glynne Lloyd 26 Rhagfyr 1946 Cymru |
Bu farw | 7 Mehefin 2019 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | is-ganghellor, is-ganghellor, mathemategydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Gorsedd y Beirdd, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Academydd oedd Athro Noel Glynne Lloyd CBE (26 Rhagfyr 1946 – 7 Mehefin 2019)[1] a fu'n Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2004 tan ei ymddeoliad yn 2011. Cyn hynny, bu'n Bennaeth yr Adran Fathemateg, yn Ddeon Gwyddoniaeth, yn Is-Brifathro ac o 1999 hyd 2004, yn Gofrestrydd ac yn Ysgrifennydd y Brifysgol. Bu'r Athro Lloyd yn un o aelodau annibynnol y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (y 'Comisiwn Silk') - a gyflwynodd ei adroddiadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2012 ac yn 2014.[2]
Daeth yn Gomisiynydd Penodiadau Barnwrol yn 2012.[3] Roedd yn aelod o fwrdd Jisc o 2012 i 2014 a chadeirydd Masnach Deg, Cymru o 2011 hyd 2017.[4] Bu hefyd yn gadeirydd HPC Cymru (menter gydweithredol rhwng holl brifysgolion Cymru).
Rhwng 2008 a 2011, bu'r Athro Lloyd yn gadeirydd Addysg Uwch Cymru ('Prifysgolion Cymru' bellach) ac yn un o Is-lywyddion Prifysgolion DU (Universities UK). Gwasanaethodd ar fyrddau nifer o gyrff eraill, traws-DU. Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yno; bu'n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Roedd ganddo hefyd ddiploma Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.
Roedd yn flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, a bu'n ysgrifennydd yr eglwys o 1989 hyd 2004. Roedd hefyd yn gadeirydd Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:
“ |
“Mae Noel wedi rhoi gwasanaeth hir a neilltuol i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r Cyngor wedi talu teyrnged iddo am ei wasanaeth fel Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ac yna fel Is-Ganghellor.” |
” |
Mathemategydd
[golygu | golygu cod]Ei ddiddordebau ymchwil oedd Systemau Aflinol, a chyhoeddodd nifer sylweddol o bapurau ar Hafaliadau Differol Aflinol. Bu'n Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2011 hyd 2016 cyn dod yn Athro Emeritws wedi ymddeol. Bu hefyd yn olygydd y Journal of the London Mathematical Society o 1983 tan 1988.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010 am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru. Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe'i urddwyd yn Aelod Anrhydeddus o'r Orsedd yn 2012.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei farwolaeth yn 72 mlwydd oed dywedodd dirprwy ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones wrth BBC Cymru Fyw:
“ | "Mae colli Noel Lloyd yn golled enfawr. Roedd yn ysgolhaig disglair, yn Athro Mathemateg a ddaeth maes o law yn is-ganghellor Aberystwyth." | ” |
Roedd yn gadael gweddw, Dilys, dau o blant, Carys a Hywel, a dwy wyres.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Athro Noel Lloyd wedi marw yn 72 oed , BBC Cymru Fyw, 8 Mehefin 2019.
- ↑ Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 29 Awst 2017.
- ↑ Gwefan Saesneg Judicial Appointments Commission ; Archifwyd 2017-08-31 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Awst 2017.
- ↑ fairtradewales.com;[dolen farw] adalwyd 29 Awst 2017.