Noam Chomsky

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Noam Chomsky

Athronydd a ieithydd Americanaidd yw Avram Noam Chomsky (ganwyd 7 Tachwedd 1928). Athro Emriritws Ieithyddiaeth MIT ydyw. Cydnabyddir iddo greu damcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, un o uchafbwyntiau ieithyddiaeth haniaethol yn yr 20fed ganrif. Yn ogystal, mae ei waith wedi cael dylanwad ar seicoleg, ac ar athroniaeth iaith ac athroniaeth meddwl.

Gan gychwyn gyda'i wrthwynebiad i Ryfel Fiet Nam yn y 1960au, fe ddaeth i'r amlwg yn y cyfryngau am ei ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n ddeallusyn allweddol i'r asgell chwith yn ngwleidyddiaeth Unol Daleithiau America. Mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau. Disgrifia'i hun yn sosialwr rhyddewyllysol ac yn gydymdeimlwr ag anarcho-syndicaliaeth.

Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill