Ngaoundéré

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Stryd gyffredin yng Ngaoundéré
Lleoliad Ngaoundéré yn Camerŵn

Ngaoundéré (neu N'Gaoundéré) yw prifddinas Talaith Adamawa yng nghanolbarth Camerŵn. Mae'n gorwedd 1212m uwchlaw lefel y môr. Ei phoblogaeth yw tua 189,800 (amcangyfrif, 2001).

Atyniadau[golygu]

Ymhlith atyniadau'r ddinas gellid crybwyll Palas Lamido a Mosg Mawr Lamido.

Cludiant[golygu]

Mae'r ddinas ar derminws gogleddol y rheilffordd i'r brifddinas Yaoundé. Mae ganddi faes awyr yn ogystal.

Dolen allanol[golygu]