Neil Postman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Academydd, addysgwr a beirniad diwylliannol o Americanwr oedd Neil Postman (8 Mawrth 1931 – 5 Hydref 2003).[1] Roedd yn athro ym Mhrifysgol Efrog Newydd a arbenigodd yn y cyfryngau a chyfathrebu.

Ei waith enwocaf yw Amusing Ourselves to Death (1985), llyfr sy'n beirniadu effaith teledu ar gymdeithas. Cred Postman yr oedd teledu yn amharu ar gyfathrebu dynol trwy gyflwyno materion cyfoes a phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol ar ffurf adloniant ac nid disgwrs o ddifrif.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) McCain, Robert Stacy (4 Tachwedd 2003). Obituary: Neil Postman. The Guardian. Adalwyd ar 26 Ionawr 2013.
  2. (Saesneg) Saxon, Wolfgang (9 Hydref 2003). Neil Postman, 72, Mass Media Critic, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 26 Ionawr 2013.
Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.