Natarajasana (Arlwyddes y Ddawns)

Oddi ar Wicipedia
Natarajasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Natarajasana mewn dawns glasurol Indiaidd sef y Bharatanatyam.

Asana, neu safle'r corff mewn ioga yw Natarajasana (Sansgrit: नटराजासन; Lladeineiddiad: Naṭarājāsana), a elwir hefyd yn Arglwyddes y Ddawns neu'n syml, yn Y Dawnsiwr.[1] Asana sefyll ydyw gydag elfen o gydbwyso a phlygu'n ôl mewn ioga modern.[2] Mae'n deillio o asana a geir yn y ddawns Indiaidd glasurol Bharatnatyam, sy'n cael ei darlunio mewn cerfluniau ar gerfluniau yn nheml y Deml Nataraja, Chidambaram.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r Sansgrit Nataraja,[a] un o'r enwau a roddwyd ar y Duw Hindŵaidd Shiva yn ei ffurf fel y dawnsiwr cosmig,[4] a आसन asana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[5]

Mae'r osgo yma'n cael ei ddarlunio mewn cerfluniau yn Bharatnatyam o'r Gopuram Dwyreiniol, Teml Nataraja, Chidambaram o'r 13g - 18g lle darlunnir tua 20 o asanas gwahanol.[6]

Dywed yr ysgolhaig ioga Elliott Goldberg, ar y llaw arall, nad yw Natarajasana i'w gael mewn unrhyw destun ioga hatha canoloesol, ac nid yw ychwaith yn cael ei grybwyll gan unrhyw deithiwr cyn yr 20g i India, nac i'w ganfod mewn darluniau artistig o ioga fel y Sritattvanidhi neu y Mahamandir ger Jodhpur. Mae Goldberg yn dadlau i'r asama yma, fel sawl un arall, gael ei gyflwyno i ioga modern gan Krishnamacharya ar ddechrau'r 20g, a'i ddatblygu gan ei ddisgyblion fel BKS Iyengar, a wnaeth yr osgo bron yn symbol o ioga modern;[7]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r asana esthetig, dull ymestyn a chydbwyso hwn yn datblygu canolbwyntio a gras hefyd;[8] fe'i defnyddir yn y ddawns glasurol Indiaidd Bharatanatyam.[6] Mae'r actor Mariel Hemingway yn disgrifio Natarajasana fel "asana hardd gyda phŵer aruthrol", gan gymharu cydbwysedd a thensiwn yn y breichiau a'r coesau â bwa saethyddiaeth, a'i alw'n "ystum anodd iawn i'w gynnal."[9]

Mae safle'r corff hwn yn dilyn y Tadasana, asana sefyll arall, gan blygu un pen-glin ac ymestyn y troed hwnnw yn ôl nes y gellir ei afael â'r llaw ar yr ochr honno. Yna gellir ymestyn y droed yn ôl ac i fyny, gan gwneud bwa o'r cefn ac ymestyn y fraich arall yn syth ymlaen.[2][10] Ar gyfer yr osgo llawn ac ar gyfer ymestyniad cryfach, gellir gwrthdroi'r fraich gefn trwy ei godi dros yr ysgwydd, a gafael yn y droed.[2]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae ymestyn i fyny ac yn ôl gyda'r ddwy fraich, penelinoedd i fyny, i afael yn y droed ôl yn rhoi asana dwysach.[1]

Gellir hefyd addasu'r asana trwy afael ar strap o amgylch y droed ôl,[10] neu drwy ddal gafael ar gynhalydd fel wal neu gadair.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Iyengar, B. K. S. (1 Hydref 2005). Illustrated Light On Yoga. HarperCollins. ISBN 978-81-7223-606-9. Cyrchwyd 9 April 2011.
  • Saraswati, Swami Satyananda (1 Awst 2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4. Cyrchwyd 9 April 2011.
  • Saraswati, Swami Satyananda (January 2004). A Systematic Course in the Ancient Tantric Techniques of Yoga and Kriya. Nesma Books India. ISBN 978-81-85787-08-4. Cyrchwyd 9 April 2011.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

 

  1. 1.0 1.1 1.2 Swanson, Ann (2019). Science of yoga : understand the anatomy and physiology to perfect your practice. DK Publishing. tt. 114–117. ISBN 978-1-4654-7935-8. OCLC 1030608283.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Lord of the Dance Pose". Yoga Journal. 28 Awst 2007.
  3. Gerstein, Nancy (2008). Guiding Yoga's Light: Lessons for Yoga Teachers. Human Kinetics. tt. 118–. ISBN 978-0-7360-7428-5.
  4. Coomaraswamy, Ananda (1957). The Dance of Śiva: Fourteen Indian Essays. Sunwise Turn. OCLC 2155403.
  5. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  6. 6.0 6.1 Bhavanani, Ananda Balayogi; Bhavanani, Devasena (2001). "BHARATANATYAM AND YOGA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Hydref 2006. He also points out that these [Bharatanatyam dance] stances are very similar to Yoga Asanas, and in the Gopuram walls at Chidambaram, at least twenty different classical Yoga Asanas are depicted by the dancers, including Dhanurasana, Chakrasana, Vrikshasana, Natarajasana, Trivikramasana, Ananda Tandavasana, Padmasana, Siddhasana, Kaka Asana, Vrishchikasana and others.
  7. Goldberg, Elliott (2016). The Path of Modern Yoga : the history of an embodied spiritual practice. Inner Traditions. tt. 223, 395–398. ISBN 978-1-62055-567-5. OCLC 926062252.
  8. Ramaswami, Srivatsa (2001). Yoga for the three stages of life: developing your practice as an art form, a physical therapy, and a guiding philosophy. Inner Traditions / Bear & Co. t. 186. ISBN 978-0-89281-820-4.
  9. Hemingway, Mariel (2004) [2002]. Finding My Balance: A Memoir with Yoga. Simon & Schuster. tt. 71–72. ISBN 978-0743264327.
  10. 10.0 10.1 StPierre, Amber. "Troubleshooting King Dancer Pose". DoYouYoga. Cyrchwyd 29 Ionawr 2019.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>