Nan Merriman

Oddi ar Wicipedia
Nan Merriman
Ganwyd28 Ebrill 1920 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcanwr, canwr opera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata

Roedd Katherine Ann "Nan" Merriman (28 Ebrill 1920 - 22 Gorffennaf 2012) yn Mezzo-soprano operatig Americanaidd.[1]

Yn frodor o Pittsburgh, Pennsylvania, fe berfformiodd gyda'i brawd y pianydd, Vic (J. Victor) O'Brien (llywydd Banc Cenedlaethol Pittsburgh yn ddiweddarach), mewn caffis a chlybiau swper yn ardal Pittsburgh. Astudiodd ganu yn Los Angeles gydag Alexis Bassian a Lotte Lehmann. Erbyn ei bod yn ugain oed roedd hi'n canu ar draciau sain ffilm Hollywood ac yno y gwelwyd hi gan Laurence Olivier. Dewisodd Olivier hi i fynd gydag ef a'i wraig, yr actores Vivien Leigh, ar daith gyda Romeo a Juliet, lle perfformiodd ganeuon yn ystod y newidiadau set.

Defnyddiwyd ei llais mewn dwy ffilm yn serennu’r actores o soprano Jeanette MacDonald, yn gyntaf mewn corws yn Maytime (1937),[2] yna mewn unawd fer yn gynnar yn y ffilm Smilin 'Through (1941).[3]

Canodd Merriman lawer o rolau yn fyw ac ar y radio o dan arweiniad Arturo Toscanini rhwng 1944 a 1953, pan oedd ef yn arweinydd Cerddorfa Symffoni NBC. Ymhlith y roliau bu iddi canu oedd Maddalena yn Act IV o Rigoletto, Verdi; Emilia yn Otello,Verdi; Meistres Page yn Falstaff, Verdi a'r "rôl trowsus" - Orfeo yn Act II o Orfeo ed Euridicea Gluck. Bu hefyd yn canu ar unig recordiad stiwdio Toscannini o Nawfed Symffoni Beethoven, gyda Cherddorfa Symffoni NBC, ym 1952. Ym 1956 cafodd ei chynnwys fel Dorabella mewn perfformiad La Scala o Così fan tutte Mozart, a arweinwyd gan protégé byrhoedlog Toscanini, Guido Cantelli.

Recordiodd Merriman Das Lied von dêr Erde gan Mahler dair gwaith, dwywaith gyda'r tenor Ernst Haefliger a'r Gerddorfa Concertgebouw. Arweiniwyd recordiad 1957 gan Eduard van Beinum ar gyfer label Philips, tra arweiniwyd recordiad 1963 gan Eugen Jochum ar gyfer Deutsche Grammophon. Dyfarnwyd Grand Prix du Disque o Académie Charles Cros i'r recordiad olaf hwn. Recordiwyd trydydd recordiad, gyda’r tenor Fritz Wunderlich a Cherddorfa Symffoni NDR o dan yr arweinydd Hans Schmidt-Isserstedt, yn fyw yn Hamburg ym mis Ebrill 1965, a’i ryddhau o dan wahanol labeli.[4]

Cafodd Merriman dderbyniad arbennig o dda yn yr Iseldiroedd, lle cyfarfu a phriodi’r tenor o’r Iseldiroedd Tom Brand, gŵr gweddw â sawl plentyn. Ymddeolodd o berfformio i ofalu am y teulu ym 1965. Bu farw Brand ym 1970. Ar ôl i'r plant tyfu, cynhaliodd sioeau preswyl yn Hawaii a California. Bu farw yn ei chartref yn Los Angeles o achosion naturiol, yn 92.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nan Merriman - Pittsburgh Music History". sites.google.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-31. Cyrchwyd 2021-02-28.
  2. "Maytime (1937) - IMDb".
  3. "Smilin' Through (1941) - IMDb".
  4. Disgyddiaeth yn Discogs
  5. "PASSING: Nan Merriman". Los Angeles Times. August 2, 2012. Cyrchwyd 2021-02-28.