Mullingar
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Iwerddon yw Mullingar (Gwyddeleg: An Muileann gCearr), sy'n dref sirol Swydd Westmeath (Contae na hIarmhí), Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yng nghanolbarth yr ynys yn nhalaith Leinster, tua 68 milltir i'r gorllewin o Ddulyn.
Mae'r draffordd N4 yn mynd heibio'n agos i'r dref gan ei chysylltu â Dulyn i'r dwyrain a Longford i'r gogledd-orllewin. Ceir ffyrdd eraill sy'n cysylltu'r dref â Dundalk i'r gogledd-ddwyrain ac Athlone i'r de-orllewin.