Mithridates I, brenin Parthia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darn arian Mithridates I o Parthia' o fathdy Seleucia ar Digris. Mae'r cefn yn dangos Heracles noeth yn dal cwpan, croen llew a chlwb. Mae'r ysgrifen Roeg yn darllen ΒΑΣΙΛΕΩΣ ΜΕΓΑΛΟΥ ΑΡΣΑΚΟΥ ΦΙΛΕΛΛΗΝΟΣ (Y brenin mawr Arsaces, cyfaill y Groegiaid). Mae'r dyddiad ΓΟΡ yn cynrhychioli blwyddyn 173 y brenhinllin y Seleuciaid, h.y. 140-139 CC

Brenin Parthia oedd Mithridates I neu Mithridates (195 CC - 138 CC), a deyrnasai fel "Brenin Mawr" y wlad o tua 171 CC hyd 138 CC, gan ddilyn ei frawd Phraates I o Parthia (176 CC - 171 CC). Roedd yn fab i'r brenin Phriapatius o Parthia (191 CC - 176 CC). Dan Mithridates tyfodd Parthia yn rym gwleidyddol mawr a lledaenwyd i'r gorllewin i gynnwys Mesopotamia. Cipiwyd Babylonia (144 CC), Media (141 BC) ac yna Persia (139 BC), pan ddaliodd Mithridates y brenin Seleucid Demetrius II o Syria (146-139 CC a 129-126 CC). Yn ddiweddarach priododd Demetrius II Rhodogune ferch Mithridates.

Ymledodd ffiniau Parthia i'r dwyrain hefyd, i Margiana, Aria a Bactria yng Nghanolbarth Asia, gan sefydlu rheolaeth Parthia ar Lwybr y Sidan. Galwai Mithridates ei hun yn philhellene (cyfaill y Groegiaid) a defnyddiai arian bath yn dilyn patrymau Groegaidd.

Mae ei enw yn dynodi ei fod dan amddiffyn a nawdd y duw Mithra ac yn rhoi iddo ei awdurdod i ryw raddau. Fe'i olynwyd ar ei farwolaeth gan ei fab Phraates (teyrnasodd 138 CC - 128 CC).