Minnie Mouse

Oddi ar Wicipedia
Minnie Mouse
Delwedd:Minnie Mouse at Walt Disney World Resort, 2007.jpg, Minnie Mouse in The Gallopin' Gaucho (1928).gif
Enghraifft o'r canlynolanthropomorphic mouse, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, Cymeriad bydysawd craidd Disney Edit this on Wikidata
CrëwrWalt Disney, Ub Iwerks Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oSensational Six, culture of the United States Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://mickey.disney.com/minnie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Minnie Mouse yn gymeriad cartŵn a grëwyd ym 1928 gan The Walt Disney Company.

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Mae hi'n llygoden anthropomorffig ac yn gariad hir dymor Mickey Mouse. Mae hi'n gwisgo menig gwyn, bwa, ffrog dot polca, ac esgidiau â sodlau isel yn achlysurol gyda rhubanau arnynt. Yn y stori stribed comig Mickey Mouse "The Gleam" (cyhoeddwyd 19 Ionawr - 2 Mai, 1942) gan Merrill De Maris a Floyd Gottfredson ei henw llawn gyntaf fel Minerva Mouse, er mai anaml y defnyddir hwn.

Mae Minnie yn steilus, siriol, a deniadol. Mae hi'n llawn o gariad ac anwyldeb, yn addfwyn i bron pawb y mae'n dod ar eu traws, ac yn nodweddiadol mae'n gallu gweld yr harddwch yn y rhan fwyaf o bethau.

Teulu[golygu | golygu cod]

Cyflwynodd y stori stribed comig "Mr. Slicker and the Egg Robbers" (cyhoeddwyd Medi 22 - Rhagfyr 26, 1930) tad Minnie, Marcus Mouse a'i mam ddienw, y ddau yn ffermwyr. Roedd yr un stori yn cynnwys ffotograffau o ewythr Minnie, Milton Mouse gyda'i deulu a'i nain a thaid Marvel Mouse a Matilda Mouse. Mae ganddi ddwy nith sy'n efeilliaid , Millie Mouse a Melody Mouse, er bod Melody yn ymddangos gan amlaf ar ei phen ei hun. Mewn sawl ymddangosiad, cyflwynir Minnie fel cariad Mickey Mouse, ffrind agos i Daisy Duck, [1] a ffrind i Clarabelle Cow

Ar 22 Ionawr , 2018, i nodi ei 90ain pen-blwydd ymunodd â rhengoedd enwogion animeiddiedig eraill trwy dderbyn ei seren ei hun ar Rhodfa Enwogion Hollywood. [2] Hi oedd y chweched cymeriad Disney i dderbyn yr anrhydedd hon. Mae Mickey Mouse, Donald Duck, Winnie the Pooh, Tinker Bell, ac Eira Wen eisoes wedi derbyn y clod hwn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae personoliaeth gynnar Minnie yn giwt, chwareus, cerddorol ac yn fflyrt. Mae hi'n aml yn portreadu diddanwr fel dawnsiwr neu gerddor y mae ei hoffter Mickey yn ceisio ennill. Rhan o gomedi'r ffilmiau byr cynnar hyn yw'r graddau amrywiol o lwyddiant y mae Mickey wedi'i gael wrth geisio denu Minnie. Yn wahanol i gartwnau diweddarach ar ôl yr ailgynllunio, mae Minnie yn aml yn dod yn fursen mewn trallod y mae Mickey yn ceisio ei hachub. Mae hi hefyd yn destun llawer o gags animeiddio slapstick a phibell rwber. Yn ystod y 1930au, cadarnhaodd perthynas Minnie a Mickey ac yn y diwedd daethant yn gwpl cyson.

Ymddangosodd Minnie gyntaf mewn dangosiad prawf o'r cartŵn byr Plane Crazy . [3] Gwahoddir Minnie i ymuno â Mickey yn ehediad cyntaf ei awyren. Mae hi'n derbyn y gwahoddiad ond nid ei gais am gusan yng nghanol y daith. Yn y pen draw, mae Mickey yn gorfodi cusan ar Minnie, wedi ffieiddio mae hi'n parasiwtio allan o'r awyren.

Y ffilm gyntaf i'w rhyddhau yn gyhoeddus oedd The Gallopin 'Gaucho. [4] Yn y ffilm maent yn ymddangos fel cwpl a oedd eisoes yn gyfarwydd â'i gilydd. Yn y ffilm a rhyddhawyd ar 30 Ragfyr, 1928 mae hi'n ymddangos fel wedi'i chyflogi yn y Cantina Argentina, bar a bwyty a sefydlwyd ym Mhampas yr Ariannin . Mae hi'n perfformio'r Tango i Black Pete y gwylliad a Mickey y gaucho. Mae'r ddau yn fflyrtio â hi ond mae'r naill yn bwriadu ei chipio tra bod y llall yn gorfod achub y Foneddiges mewn Trallod rhag y dihiryn.

Eu trydydd cartŵn a sefydlodd golwg diffiniol cynnar a phersonoliaeth Mickey a Minnie, yn ogystal â Pete. Steamboat Willie,[5] oedd y drydedd ffilm fer o'r gyfres i gael ei chynhyrchu ond fe'i rhyddhawyd gyntaf ar 18 Tachwedd, 1928. Mae Pete yn Gapten yr agerlong, Mickey yw'r unig aelod o'r criw a Minnie yw'r unig deithiwr. Dyma oedd ymddangosiad ffilm sain gyntaf y ddwy lygoden.

Y ffilm Mickey's Follies (26 Mehefin, 1929), [6] sy'n sefydlu Mickey a Minnie yn gadarn fel cwpl ac yn mynegi pwysigrwydd Minnie i'w phartner gwrywaidd. Ymddangosodd yn rheolaidd wedi hynny mewn nifer o ffilmiau Mickey Mouse hyd ganol y 30au.

Yn ystod ail hanner y tridegau, ni ymddangosodd Minnie mor aml mewn cartwnau Mickey. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y twf ym mhoblogrwydd y cyfeillion newydd Mickey, Goofy, Donald Duck, a Pluto, yr oedd eu hymddangosiadau mewn cartwnau Mickey wedi disodli rôl Minnie fwy neu lai. Felly daeth ymddangosiadau Minnie mewn cartwnau Mickey yn llai niferus, ond roedd ganddi ychydig o rolau mawr mewn rhai cartwnau Pluto a Figaro yn ystod y 1940au. Gwnaeth Minnie fath o ddychweliad yn y 1980au pan gafodd ei hailgyflwyno yn Mickey's Christmas Carol ac yna cafodd ei rôl serennu ei hun yn Totally Minnie. [7]

Llais[golygu | golygu cod]

Lleisiwyd Minnie gyntaf gan Walt Disney, a oedd hefyd yn llais gwreiddiol Mickey Mouse. [8] Lleisiodd Marjorie Ralston, hi yn y Wild Waves ffilm fer ym 1929,yna, rhwng 1930 a 1939, lleisiwyd Minnie gan Marcellite Garner. O 1941 i 1942, ac ar y rhaglen radio, The Mickey Mouse Theatre of the Air, cafodd ei lleisio gan Thelma Boardman. Rhwng 1942 a 1952 darparodd Ruth Clifford lais y cymeriad. Lleisiodd Janet Waldo Minnie yn albwm recordiau Disneyland 1974, An Adaptation of Dickens 'Christmas Carol, Performed by The Walt Disney Players. Bu Minnie heb unrhyw ddeialog lafar tan 1986, pan etifeddodd Russi Taylor y rôl, a gyflawnodd hyd ei marwolaeth yn 2019 ( lleisiodd ei gŵr, Wayne Allwine, Mickey o 1977 hyd ei farwolaeth yn 2009); Defnyddir llais Taylor mewn amryw o gyfresi teledu a pharc thema trwy ddeialog archifol. Cymerodd Kaitlyn Robrock yr awenau yn swyddogol fel llais newydd Minnie, gan ddechrau gyda phenodau “Mickey's Roommate / Minnie's Bow-tel!” yn Mickey Mouse Mixed-Up Adventures . [9]

Ymddangosiadau mewn cartwnau byr[golygu | golygu cod]

Ymddangosiadau teledu[golygu | golygu cod]

  • Walt Disney anthology cyfres deledu (1954–2008)
    • Totally Minnie (1988)
    • Mickey's 60th Birthday (1988)
  • The Mickey Mouse Club (1955–1959; 1977–1979; 1989–1994)
  • Mickey Mouse Works (1999–2000)
  • House of Mouse (2001–2003)
  • Mickey Mouse Clubhouse (2006–2016)
    • Minnie's Bow-Toons (2011–2016)
  • Mickey Mouse (2013–2019)
  • Mickey Mouse Mixed-Up Adventures (2017–presenol)
  • Mickey's 90th Spectacular (2018)
  • The Wonderful World of Mickey Mouse (2020-presenol)


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Daisy Visits Minnie". Disney Animated Shorts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  2. "Minnie Mouse honored with Hollywood Walk of Fame star". ABC News. ABC News. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  3. Malone, Patrick (11 Tachwedd 1997). "Plane Crazy". Disney Animated Shorts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-16. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  4. "Gallopin' Gaucho". Disney Animated Shorts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-18. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  5. "Steamboat Willie". Disney Animated Shorts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-27. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  6. "Mickey's Follies". Disney Animated Shorts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-14. Cyrchwyd 3 Mai 2021.
  7. Solomon, Charles (March 25, 1988). "Television Reviews 'Disney's Totally Minnie': Live Action, Animation". Los Angeles Times. Cyrchwyd 2021-03-05.
  8. Desk, Cox Media Group National Content. "Mickey Mouse turns 87 years old". Dayton Daily News.
  9. Bear, Caitie (July 19, 2020). "Kaitlyn Robrock Voicing Minnie Mouse in 'Mickey Mouse Mixed-Up Adventures'". DapsMagic.com.