Mickey Mouse

Oddi ar Wicipedia
Mickey Mouse
Enghraifft o'r canlynolanthropomorphic mouse, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, Cymeriad bydysawd craidd Disney, mascot character Edit this on Wikidata
CrëwrWalt Disney, Ub Iwerks Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oSensational Six Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata[1]
RhagflaenyddOswald the Lucky Rabbit Edit this on Wikidata
Enw brodorolMickey Mouse Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://mickey.disney.com/mickey Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Mickey Mouse yn gymeriad animeiddiedig a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ym 1928. Mae'n llygoden anthropomorffig sydd wedi'i nodweddu fel optimist anturus, mawr o galon gydag elfennau o gymeriad direidus. Amcanir ei fod yn 2 '3 " (69 centimedr) o daldra ac yn pwyso 23 pwys (10 cilogram), mae Mickey yn hawdd ei adnabod trwy ei glustiau crwn, trowsus byr coch, llais falsetto, menig gwyn ac esgidiau melyn mawr.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Crëwyd Mickey I gymryd lle Oswald, y gwningen lwcus, seren gynharach a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ar gyfer cwmni Charles Mintz, Universal Studios. Ar ôl cael llwyddiant mawr gyda ffilmiau byr Oswald,[3] gofynnodd Disney am gyllideb uwch ar gyfer cynhyrchu cartwnau pellach. Gan ei fod yn berchen ar y cymeriad yn gyfreithiol, gwrthododd Mintz gais Disney. Daeth Disney a'i berthynas â Universal I ben yn fuan wedyn a sefydlodd ei gwni ei hun Walt Disney Productions. O'r pwynt hwnnw ymlaen, gwnaeth Disney yn siŵr ei fod yn berchen ar yr holl hawliau i'r cymeriadau a gynhyrchwyd gan ei gwmni. Heb yr hawl i gynhyrchu rhagor o ffilmiau am Oswald, bu'n rhaid creu cymeriadau newydd ar gyfer creu ffilmiau animeiddiedig i'w gwmni newydd.

Cartŵn cyntaf Mickey Mouse oedd Plane Crazy (1928) ond ni fu'r ffilm yn llwyddiant a methodd cael hyd i gwmni i'w dosbarthu i'r sinemâu. Tebyg bu ffawd ei ail ffilm The Gallopin' Gaucho (1928). Roedd y ddwy ffilm gyntaf yn rhai mud. Yn dilyn eu methiant penderfynodd Disney i roi cais ar ffilm llais am drydydd ymddangosiad Mickey. Cafodd y drydedd ffilm, Steamboat Willie, croeso gwresog gan feirniaid a'r cyhoedd wedi ei ddarllediad cyntaf pan gafodd ei ddangos am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 18 Tachwedd, 1928.[4]

Wedi llwyddiant Steamboat Willie dringodd Mickey Mouse yn gyflym i binacl diwylliant Americanaidd, gan ddod y cymeriad cartŵn mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn y byd i gyd ac yn ddylanwad mawr ar ffilmiau cartŵn olynol. Mae wedi ymddangos mewn dros 130 o ffilmiau ac mae wedi derbyn un ar ddeg Gwobr yr Academi. Ym 1978, daeth Mickey y cymeriad ffuglen gyntaf i gael seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.[5]

Am 90 mlynedd, mae Mickey wedi bod yn gonglfaen ymerodraeth Disney. Roedd ei lwyddiant yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiadau niferus ym maes celf animeiddio, a'r diwydiant adloniant yn ei gyfanrwydd.

Heddiw, Mickey, o bell ffordd, yw cymeriad mwyaf enwog cwmni Walt Disney ac yn gwasanaethu fel masgot y cwmni. Mae ei silwét 3 gylch yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o is-gwmnïau Disney, ac eithrio'r rhai nad ydynt yn cario label 'Disney' neu 'Walt Disney'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]