Mingreliaid

Oddi ar Wicipedia
Mingreliaid
Y Dywysoges Chkonia o Fingrelia
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithMingrelian, georgeg edit this on wikidata
Label brodorolმარგალეფი Edit this on Wikidata
Poblogaeth400,000 Edit this on Wikidata
CrefyddEglwysi uniongred edit this on wikidata
Rhan oKartvelian Edit this on Wikidata
Enw brodorolმარგალეფი Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig sy'n perthyn i genedl y Georgiaid yn y Cawcasws yw'r Mingreliaid sy'n siarad yr iaith Fingreleg. Mae tua hanner miliwn ohonynt yn byw yn Georgia, yn bennaf yn nhalaith Mingrelia, neu Samegrelo.

Saif mamwlad y Mingreliaid ar lannau'r Môr Du, yn ardal Teyrnas Egrisi, a elwid Colchis gan yr hen Roegiaid. Erbyn yr 11g, roedd Mingrelia yn rhan o Deyrnas Georgia. Enillodd Tywysogaeth Mingrelia ei hannibyniaeth yn yr 16g dan frenhinllin y Dadiani. Yn 1803 arwyddwyd cytundeb am nawddogaeth Ymerodraeth Rwsia. Cipiwyd Mingrelia gan luoedd Rwsia yn 1857, a diddymwyd y dywysogaeth.

Ystyrir y Mingreliaid yn is-grŵp i'r Georgiaid, er eu bod yn meddu ar ddiwylliant, hanes, ac iaith eu hunain. Mae'r mwyafrif ohonynt yn aelodau Eglwys Uniongred Georgia, a rhai yn Fwslimiaid, yn Uniongredwyr Rwsiaidd, neu'n Gatholigion.[1]

Yn sgil Chwyldro Rwsia yn 1917, meddiannwyd Mingrelia gan Weriniaeth Ddemocrataidd Georgia (1918–21). Cyfeddiannwyd gwledydd deheuol y Cawcasws gan yr Undeb Sofietaidd a chychwynnwyd ar bolisi swyddogol o gymhathu'r Mingreliaid yn rhan o genedl y Georgiaid. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd a rhyfeloedd yn ne'r Cawcasws yn y 1990au, alltudiwyd rhyw 200,000 o Georgiaid, y mwyafrif ohonynt yn Fingreliaid, o Abcasia.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 James B. Minahan, Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2016), tt. 272–3.