Millét

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned grefyddol yn Ymerodraeth yr Otomaniaid oedd millét.

Dan system a gyflwynwyd ym 1454, rhannwyd poblogaeth yr Ymerodraeth Ottoman yn bedwar grŵp neu millét: y Mwslemiaid, y Cristnogion Uniongred, Cristnogion Armenia a'r Iddewon. Cafodd pob grŵp crefyddol gwahanol drefnu ei faterion mewnol, gan gynnwys addysg a'r gyfraith. Pennaeth y millét oedd pennaeth y grŵp crefyddol dan sylw, a fe oedd yn cynrychioli ei grŵp mewn trafodion â'r Sublime Porte, y llywodraeth Ottomanaidd. Er i'r tri millét di-Fwslemaidd gael trefnu eu gweinyddiaeth eu hunain, roedden nhw mewn sefyllfa israddol. Cafodd unrhyw ddadl yn ymwneud â Mwslemiaid a di-Fwslemiaid ei setlo yn ôl y gyfraith Fwslemaidd. Doedd system y millét na'r llywodraeth Ottomanaidd ddim yn cydnabod y syniad o 'genedl' neu 'ethnigrwydd'. Roedd hyn yn golygu na chydnabuwyd dim lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, pennaeth y millét Cristnogol Uniongred oedd y Patriarch Uniongred Groegaidd yn Nghaergystennin. Ni welodd llywodraeth yr ymerodraeth wahaniaeth rhwng y Groegwyr a'r cenhedloedd Cristnogol eraill yn y Balcanau, megis y Serbiaid a'r Bwlgariaid, gan eu bod nhw i gyd yn Gristnogion Uniongred.

Dylanwadwyd ar system y millét gan bwerau mawr Ewrop o'r 18fed ganrif ymlaen. Noddwyd y Cristnogion Uniongred gan Rwsia, y Pabyddwyr gan Ffrainc, a'r Protestaniaid a'r Iddewon gan Brydain. Ychwanegwyd grwpiau eraill i'r system millét o ganlyniad i hyn. Er enghraifft, crewyd millét Protestannaidd ym 1850, a millét i'r Cristnogion Uniongred Bwlgaraidd ym 1870. Defnyddir system y millét heddiw i ryw raddau mewn rhai gwledydd Mwslemaidd, megis Iorddonen, Libanus, Iran, Pacistan a'r Aifft, lle mae cyfraith deuluol yn dibynnu ar grefydd unigolion.