Miguel d'Escoto Brockmann

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd ac offeiriad o Nicaragua ac Arlywydd 63edd Sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yw'r Tad Miguel d'Escoto Brockmann (ganed yn Los Angeles, Califfornia, UDA, 1933).

Treuliodd Miguel d’Escoto ei blentyndod yn Nicaragua ond yn 1947 dychwelodd i'r Unol Daleithiau i astudio. Yn 1962 cafodd ei ordeinio yn offeiriad ar ôl cyfnod yn athrofa Gatholig Maryknoll, Efrog Newydd.

Cefnogai'r FSLN (y Sandinistas) yn ei wrthryfel yn erbyn llywodraeth adain dde eithafol yr unben Anastasio Somoza ac yn fuan ar ôl y chwyldro cafodd ei apwyntio'n Weinidog Tramor Nicaragua.

Yn ôl ei fywgraffiad ar wefan y Cynulliad Cyffredinol, mae wedi cael ei ysbrydoli gan fywyd a gwaith Leo Tolstoy, Gandhi, y Dr. Martin Luther King, a Dorothy Day. Mae'n credu mewn parch at gyfraith ryngwladol a byw yn gytûn, dulliau didrais a chyfiawnder cymdeithasol.

Dolenni allanol[golygu]

  • (Saesneg) Bywgraffiad byr ar wefan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.