Michelle Obama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Michelle Obama

Cyfreithwraig Americanaidd a gwraig Barack Obama, Arlywydd Unol Daleithiau America, yw Michelle LaVaughn Robinson Obama (née Robinson) (ganwyd 17 Ionawr, 1964).

Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn ochr ddeheuol Chicago a graddiodd o Brifysgol Princeton ac Ysgol y Gyfraith, Harvard. Wedi iddi orffen ei haddysg ffurfiol, dychwelodd i Chicago a derbyniodd swydd gyda chwmni cyfreithiol Sidley Austin, lle cyfarfu â'i gwr. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel aelod o staff i faer Chicago, Richard M. Daley ac i Ganolfan Feddygol Prifysgol Chicago. Trwy gydol 2007 a 2008, cyfrannodd i ymgyrch arlywyddol ei gwr, gan draddodi araith yng Nghynhadledd Ddemocrataidd Genedlaethol 2008. Mae hefyd yn fam i ddwy ferch, Malia a Sasha, ac yn chwaer i Craig Robinson, hyfforddwr pêl-fasged i Brifysgol Talaith Oregon.

Rhagflaenydd:
Laura Bush
Prif foneddiges yr Unol Daleithiau
2009 – presennol
Olynydd:
deiliad
Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill