Metadata

Oddi ar Wicipedia
Ers y 1920au, mae metadata'n cyfeirio at ffurfiau digidol, ond gellir dweud fod cardiau gyda chofnodion a sgwennwyd gyda llaw hefyd yn cynnwys metadata. Yn aml, defnyddid y rhain i gofnodi enwau llyfrau mewn llyfrgell: awdur, pwnc, ISBN ayb.

Gwybodaeth ar ffurf data sy'n ein goleuo mewn rhyw fodd a sy'n cysylltu â data arall yw metadata, h.y. data cysylltiedig.[1] Ceir gwahanol fathau o fetadata, gan gynnwys metadata disgrifiadol, metadata strwythurol, metadata gweinyddol, metadata cyfeiriol a metadata ystadegol.[2][3]

Daw'r rhagddodiad meta o'r Groeg μετά- sef "wedi" neu "ar ôl", ond o fewn gwybodeg gall olygu "ynglŷn â..." h.y. gellir diffinio metadata fel "data sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn â data arall; data am ddata.

  • Metadata disgrifiadol - y ddau brif bwrpas i fetadata disgrifiadol yw darganfod ac adnabod e.e. allweddeiriau (keywords), enw'r awdur, testun disgrifiadol, dyddiadau geni.
  • Metadata strwythurol - mae metadata strwythurol yn disgrifio cynwysyddion data, a sut y mae gwrthrychau cyfansawdd yn cysylltu â'i gilydd e.e. sut y mae tudalennau'n cael eu grwpio bob yn bennod.
  • Metadata gweinyddol - mae metadata gweinyddol yn disgrifio mathau, fersiynau a pherthynas deunydd digidol.[4]
  • Metadata gweinyddol - sy'n cynorthwyo'r gwaith o reoli'r adnodd, e.e. sut a pha bryd y cafodd ei greu, math o ffeil, gwybodaeth technegol tebyg a phwy sydd a'r hawl i gael mynediad iddo.[5]
  • Metadata cyfeiriol - sy'n cyfeirio at gynnwys a dibynadwyedd y data ystadegol.
  • Metadata ystadegol - gall hwn hefyd ddisgrifio'r prosesau sy'm casglu, yn prosesu neu'n cynhyrchu data. Gellir hefyd ei alw'n "brosesu data".[6]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Gall delwedd ('llun ffotograffig') gynnwys metadata sy'n disgrifio pa mor fawr yw'r ddelwedd, dyfnder y lliwiau, cydraniad, pa bryd y crewyd y llun, cyflymder y caead ayb.[7] Mae'r rhain, fel arfer yn anweledig, oni bai fod y person yn chwilio amdanynt drwy edrych ar briodweddau'r ffeil.

Gall testun mewn dogfen megis LibreOffice Writer neu Notepad gynnwys llawer o fetadata: pa mor hir yw'r ddogfen, sawl gair sydd yn y testun, pa bryd y sgwennwyd y testun, pwy yw'r awdur, crynodeb o'r ddogfen ayb. Mae dalennau gwe hefyd yn cynnwys metadata, ac fel arfer yn cynnwys allweddeiriau cudd, ar gyfer y porwyr.[8]

Hanes[golygu | golygu cod]

Hyd at y 1980au, cardiau papur oedd mewn llyfrgelloedd i ddal gwybodaeth am lyfrau, cyn iddynt droi at dduliau digidol wrth i gyfrifiaduron gryfau o ran pwer a dod yn fwy poblogaidd. Yn y 2000au crewyd safonau er mwyn rheoli'r data digidol newydd, a sut i sicrhau ei fod yn gywir ac yn saff; erbyn y 2010au, roedd gan ddisgyblaethau gwahanol safonau unigryw, ar wahân e.e. amgueddfeydd, gwefannau, ffeiliau sain digidol.

Canolfan Gwybodaeth Ryngwladol MIT a ddefnyddiodd y term "metadata" am y tro cyntaf, hyd y gwyddys, a hynny gan David Griffel a Stuart McIntosh yn 1967, er na chyplyswyd y ddau air yn ei gilydd i greu gair cyfansawdd.[9][10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2015. Cyrchwyd 27 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. Zeng, Marcia (2004). "Metadata Types and Functions". NISO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2016. Cyrchwyd 5 Hydref 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Directorate, OECD Statistics. "OECD Glossary of Statistical Terms - Reference metadata Definition". stats.oecd.org. Cyrchwyd 2018-05-24.
  4. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2017. Cyrchwyd 10 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  5. National Information Standards Organization (NISO) (2001). Understanding Metadata (PDF). NISO Press. t. 1. ISBN 1-880124-62-9. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 7 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Dippo, Cathryn. "The Role of Metadata in Statistics" (PDF). Bureau of Labor Statistics. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-02-24.
  7. "ADEO Imaging: TIFF Metadata". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2013. Cyrchwyd 20 Mai 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Rouse, Margaret (Gorffennaf 2014). "Metadata". WhatIs. TechTarget. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Hydref 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Dyfyniad o waith David Griffel a Stuart McIntosh yn 1967: "In summary then, we have statements in an object language about subject descriptions of data and token codes for the data. We also have statements in a meta language describing the data relationships and transformations, and ought/is relations between norm and data."
  10. Steiner, Tobias (2017-11-23). "Metadaten und OER: Geschichte einer Beziehung (Metadata and OER: [history of a relationship)"] (yn de-DE). Synergie. Fachmagazin für Digitalisierung in der Lehre 04: 54. doi:10.17613/m6p81g. ISSN 2509-3096. https://hcommons.org/deposits/item/hc:16929/.