Menter Iaith Sir Ddinbych
Sefydlwyd Menter Iaith Sir Ddinbych yn 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter Iaith Dinbych-Conwy. Mae Menter Sir Ddinbych yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Lleolir y fenter yn Ninbych, Sir Ddinbych.
Bwriad a nod y fenter[golygu | golygu cod]
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Sir Ddinbych. Mae'r Fenter yn cydweithio â sawl partner a grŵp cymunedol i weithredu eu hamcanion, gyda’r prif nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.
Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.
Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg. Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.
Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.
Pwyllgor rheoli a staff Menter Iaith Sir Ddinbych[golygu | golygu cod]
Pwyllgor Rheoli[golygu | golygu cod]
- Alice Jones – Cadeirydd
- Arwel Roberts - Is-Gadeirydd
- Anna Edwards - Ysgrifennydd
- Owain Morris – Trysorydd
- Emrys Wynne
- Eleri Llwyd
- Gwenan Prysor
- Alaw Griffith
- Bethan Cartwright
- Menna Jones
- Meirick Lloyd Davies
Staff y fenter[golygu | golygu cod]
Ruth Williams - Prif Swyddog
Iorwen Jones - Swyddog Cyllid a Busnes
Gwion Tomos-Jones - Swyddog Datblygu Cymunedol
Buddug Davies - Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau
Nia Morris - Swyddog Cymraeg Byd Busnes
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Mentrau Iaith Cymru
- Uned Gymraeg Llywodraeth Cymru
- Gwefan Menter Iaith Sir Ddinbych [1] Archifwyd 2020-08-11 yn y Peiriant Wayback.
- Tudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych [2]
- Cyfrif Trydar Menter Iaith Sir Ddinbych [3]
- Cyfrif Instagram Menter Iaith Sir Ddinbych [4]