Melysion tynnu

Oddi ar Wicipedia
Peiriannau a ddefnyddir i dynnu a lapio taffi dŵr hallt.

Melysion a gaiff eu tynnu mewn y broses o'u gwneud yw melysion tynnu.

Mae roc i gyd yn felysion tynnu, a hefyd rhai mathau o daffi. Gellir gwneud melysion tynnu o surop siwgr plaen, er enghraifft hymbygs. Mainteisir yn aml ar y dechneg dynnu i ymuno edefynnau o wahanol liwiau, neu linyn tywyll wedi ei dynnu a llinyn claear heb ei dynnu. Ceir melysion o'r fath ar draws Ewrop: losin llygad tarw yng ngwledydd Prydain, berlingots in Ffrainc, a polkagris yn Sweden.[1]

Yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America defnyddir y dechneg hon yn bennaf, ond ceir hefyd melysion tynnu yn y Dwyrain Canol ac Asia. Mae'n well i nifer o bobl ei gwneud ar yr un pryd, fel y gallent tynnu swp llawn cyn iddo oeri. O ganlyniad mae tynnu melysion yn weithgaredd poblogaidd yn y cartref ac ar gyfer partïon. Gan amlaf defnyddir peiriannau i dynnu gan wneuthurwyr masnachol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 640.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: melysion tynnu o'r Saesneg "pulled candy". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.