Melysion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bwydydd gyda chynnwys uchel o siwgr yw melysion. Gan amlaf maent ar ffurf danteithion bychain a ellir eu bwyta'n gyfleus, yn wahanol i bwdinau a melysfwydydd eraill a fwyteir fel pryd o fwyd neu fyrbryd mawr.

Mae plant yn hoff iawn o felysion. Mae hoffter melysion yn nodwedd a ymddengys dro ar ôl tro mewn llyfrau Roald Dahl, gan gynnwys ei gofiant Boy.

Geiriau[golygu]

Map o'r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd gan Peter Wynn Thomas a Beth Thomas sy'n dangos dosbarthiad gwahanol eiriau am felysion yng Nghymru.

Melysion a pethau melys yw'r termau Cymraeg cyffredinol am y bwydydd hwn.[1] Mae "melysion" yn dyddio'n ôl i 1851 ac fe geir yn yr iaith lafar ar draws Cymru. Gellir defnyddio'r ffurf unigol "melysyn".[2] Defnyddir "pethau melys" yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.[3] Ceir nifer o enwau eraill sy'n perthyn i ardaloedd penodol, y mwyafrif ohonynt yn fenthyceiriau o'r Saesneg. Gan amlaf dywedir losin yn ne Cymru a fferins yn y gogledd.[4]

  • Losin neu losins (ffurfiau unigol: losinen, losen). Gair o'r de[1] sy'n dyddio o 1908. Daw o'r gair Saesneg lozenge.[5] Defnyddir mewn ardal sy'n cyfateb yn agos i siroedd Penfro, Caerfyrddin, a Morgannwg.[6]
  • Fferins neu weithiau ffeirins (ffurfiau unigol: fferen, ffeiryn). Gair o'r gogledd orllewin[1] yw hwn a ddaw o'r gair Saesneg fairings, hynny yw melysion neu anrhegion a brynid mewn ffair. Mae'n dyddio o'r flwyddyn 1722. Yn gyffredinol defnyddir ar lafar yn y gogledd yn yr ystyr melysion, ac yn y de yn amlach yn yr ystyr anrhegion o'r ffair.[7] Ceir weithiau y ffurf luosog fferis.[1] Fe'i glywir ar draws Cymru i ogledd Afon Rheidol.[6]
  • Da-da. Gair gogleddol[1] a geir yn enwedig yn y gogledd-orllewin sy'n efelychu'r term Ffrangeg bonbon. Mae'n dyddio'r o'r flwyddyn 1881.[8] Ceir hefyd y term peth(au) da[1] a ddefnyddir yn Arfon a Môn.[3]
  • Minceg, minciac, minciag, neu mincieg (i gyd yn ffurfiau lluosog ac unigol). Gair o'r gogledd sy'n dyddio o 1881 ac yn fenthycair o'r Saesneg mint cake. Defnyddir yn bennaf am felysion mintys.[9] Ceir yn enwedig yng ngogledd Meirionnydd.[6]
  • Cacenni (ffurf unigol: cacen). Gair a ddefnyddir yn y canolbarth[1] yn unigryw, yn enwedig dwyrain y canolbarth.[6] Defnyddir y gair "cacen" yn amlach i ddisgrifio melysfwyd pob, hynny yw teisen.
  • Cisys (ffurf unigol: cisen). Daw o'r gair Saesneg tafodieithol kiss, sef "melysfwyd o gynhwysion amrywiol".[10] Gair a ddefnydir ar lafar weithiau yn y de ddwyrain[1] ac yng ngogledd Ceredigion[10] ac yn ysbeidiol yng ngogledd Sir Benfro.[4]
  • Swîts (unigol: switsen).[1] O'r gair Saesneg sweets a ddefnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr ugeinfed ganrif.[11] Gair a geir yn y de-orllewin,[6] yn enwedig ar lafar yn Nyffryn Teifi, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.[11]
  • Candis (ffurfiau unigol: candi, canden, candisen).[1] O'r gair Saesneg candy. Defnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr unfed ganrif ar bymtheg.[12] Ceir ar Ynys Môn ac yng nghanol Ceredigion, ac hwn yw'r prif air am felysion yn rhannau o Frycheiniog.[4]
  • Neisis (ffurf unigol: neisi).[1] O'r gair Saesneg tafodieithol nicey. Ar lafar yn Sir Benfro.[13]
  • Trops[1] neu drops (ffurf unigol: dropsen).[14] Mewn dau bentref yn y de-orllewin yn unig y'i cofnodwyd: Cynwyl Elfed a Brechfa.[6]
  • Lemons.[1] Hynny yw, losin lemwn.
  • Taffis neu taffins (ffurf unigol: taffen).[1] Gair a geir yn unigryw rhwng yr Afon Tawe a'r Afon Nedd.[6] Hynny yw, taffi.

Hanes[golygu]

Gan nad oedd siwgr ar gael ar draws y rhan fwyaf o'r Henfyd, defnyddiwyd mêl fel melysydd a gyfunwyd â ffrwythau, cnau, perlysiau a sbeisys.[15] (Mae'r geriau "mêl" a "melys" yn rhannu'r un wreiddyn Indo-Ewropeg, melit.)[16][2] Ceir tystiolaeth o felysion siwgr mewn hieroglyffau Eifftaidd sy'n dyddio'n ôl i 1000 CC. Ystyrid y cyffeithydd (gwneuthurwr melysion) yn grefftwr medrus gan y Rhufeiniaid. Yn ystod yr Oesoedd Canol lledaenodd y Persiaid yr arfer o amaethu'r gansen siwgr, ei choethi a'i defnyddio i wneud melysion â siwgr yn gynhwysyn elfennol. Roedd maint bychan o siwgr ar gael yn Ewrop yn ystod y cyfnod hwn a defnyddiwyd i wneud cyffeithiau a werthid yn yr apothecari. Dechreuodd Fenis fewnforio siwgr o Arabia yn y 14eg ganrif. Erbyn yr 16eg ganrif gwnaed melysion o law drwy gymysgu siwgr berwi gyda ffrwythau a chnau mewn i siapiau cywrain. Adeiladwyd y peiriannau cyntaf i gynhyrchu melysion ar ddiwedd y 18fed ganrif.[15]

Mathau[golygu]

Olwynion licris

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
  2. 2.0 2.1  melys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  3. 3.0 3.1  peth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  4. 4.0 4.1 4.2 Thomas a Thomas (1989), t. 15.
  5.  losin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd, Gwasg Taf, 1989), t. 13.
  7.  fferins. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  8.  da-da. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  9.  minceg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  10. 10.0 10.1  cisen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  11. 11.0 11.1  swîts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  12.  candi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  13.  neisi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  14.  drop. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  15. 15.0 15.1 (Saesneg) candy (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  16.  mêl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.