Mausoleum Halicarnassus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Mausoleum yn Halicarnassus (engrafiad lliwiedig gan Martin Heemskerck, 16eg ganrif)

Cofadail mawreddog yw'r Mausoleum (Groeg Μαυσολειον) a godwyd yn ninas Halicarnassos yn nhalaith Caria yn Asia Leiaf er anrhydedd y brenin Mausolus yn 352 C.C. gan ei wraig Artemisia. Mae'n un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.

O ran ei adeiladwaith roedd iddo is-strwythr hirsgwar mawr, 440 troedfedd o gwmpas, wedi ei amgylchynu gan 36 colofn, ac wedi ei goroni gan byramid 24 gradd gyda quadriga (cerbyd pedwar march) ar ei gopa, yn ôl Pliny'r Hynaf (Naturalis Historia xxxvi, 30-31). Uchder y cofadail oedd 140 troedfedd ac roedd wedi'i baentio â phob lliw dan haul. Satyrus a Pythius oedd y penseiri a gwaith y cerflunwyr enwog Scopas, Bryaxis, Timotheus a Leochares oedd y cerfluniau ar hyd ei ochrau.

Roedd y Mausoleum mewn cyflwr da hyd at y 12fed ganrif O.C. ond dirywio fu ei hanes ar ôl hynny. Daeth Marchogion St John i'r ardal ar ddiwedd y 14eg ganrif a dechrau ei ddefnyddio fel chwarel. Yn goron ar y fandaliaeth hon, toddwyd y cerfluniau marmor i wneud gwyngalch ar gyfer eu caer yn 1522. Darganfuwyd olion yr adeilad o'r newydd yn 1857 a symudwyd drylliau o'r cerfluniau i'r Amgueddfa Brydeinig. Mae gwaith archaeolegol diweddar wedi datguddio safle'r Mausoleum ond ychydig sy'n aros ohono.

Rhoddwyd yr enw mausoleum gan y Rhufeiniaid ar eu cofadeilion hwythau, gan gynnwys Beddrod Hadrian yn Rhufain (Castell Sant Angelo heddiw).

Llyfryddiaeth[golygu]