Mauricius

Oddi ar Wicipedia
Mauricius
Ganwyd539 Edit this on Wikidata
Arabissus Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 602 Edit this on Wikidata
Nicomedia Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd, seneddwr Rhufeinig, ymerawdwr Rhufain Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadPaul Edit this on Wikidata
PriodConstantina Edit this on Wikidata
PlantTheodosius, Tiberius, Petrus, Paulus, Justin, Justinian, Anastasia, Cleopatra, Theoctista, Maria Edit this on Wikidata
Llinachllinach Iwstinian Edit this on Wikidata
Mauricius ar ddarn arian solidus.

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 582 a 602 oedd Flavius Mauricius Tiberius Augustus, Groeg: Maurikios (539 - 27 Tachwedd 602).

Roedd Mauricius yn frodor o Arabissus, Cappadocia, Profodd ei hun yn gadfridog galluog yn y brwydrau yn erbyn y Persiaid o 579 ymlaen, gan ennill buddugoliaeth fawr yn eu herbyn yn 581. Y flwyddyn wedyn, priododd ferch yn ymerawdwr, Constantina. Daeth yn ymerawdwr ar 13 Awst 582.

Eifeddodd yr ymerodraeth ar gyfnod anodd, gyda thrafferthion ariannol, yr angen i dalu arian i aral yr Afariaid rhag ymosod a't rhyfel yn erbyn Persia yn parhau. Gorchfygodd y Persiaid ger Dara yn 586. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu rhyfel catref ym Mhersia, a rhoddodd Mauricius fenthyg byddin i roi Chosroes II ar yr orsedd. Enillodd rannau o Mesopotamia ac Armenia yn gyfnewid am ei gymorth.

Wedi cael heddwch ar ei ffîn ddwyreiniol, bu Mauricius yn ymladd yn y Balcanau, gan ad-ennill Singidunum oddi wrth yr Afariaid yn 592; ac enillodd ei gadfridog Priscus gyfres o fuddugoliaethau yn 593.

Yn 602, gorchymynodd yr ymerawdwr fod ei fyddin i dreulio'r gaeaf tu hwnt i Afon Donaw, a dechreuodd gwrthryfel dan arweiniad Phocas. Bu terfysg yng Nghaergystennin, a chymerwyd Mauricius yn garcharor wrth iddo geisio ffoi. Llofruddiwyd ef ar 27 Tachwedd, 602; dywedir i'w dri mab gael eu lladd o flaen ei lygaid yn gyntaf. Cyhoeddwyd Phocas yn ymerawdwr.