Matthew Francis

Oddi ar Wicipedia

Bardd a nofelydd o Sais yw Matthew Francis (ganwyd 1956) sydd yn byw yng Nghymru ac yn addysgu ysgrifennu creadigol Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.[1]

Ganwyd yn Hampshire a mynychodd Ysgol Dinas Llundain. Astudiodd yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt, ac ar ôl gweithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth am ddegawd fe enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Southampton.[2]

Cyhoeddwyd chwe chyfrol o farddoniaeth (BlizzardDragonsWhereaboutsMandevilleMuscovy, a The Mabinogi), dwy nofel (WHOM a The Book of the Needle), a chasgliad o straeon byrion (Singing a Man to Death). Arbeniga Francis ar waith y bardd Albanaidd W. S. Graham, ac mae wedi golygu casgliad o'i gerddi a chyhoeddi astudiaeth o'i farddoniaeth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • WHOM (Bloomsbury, 1989).
  • Blizzard (Llundain: Faber and Faber, 1996).
  • Dragons (Llundain: Faber and Faber, 2001).
  • Where the People Are: Language and Community in the Poetry of W.S. Graham. (Salt Publishing, 2004).
  • New Collected Poems of W. S. Graham (Faber and Faber, 2004).
  •  Whereabouts. (Toronto: Rufus Books, 2005).
  • "Poems by Matthew Francis". Poetry Wales 7(42.4) 2007.
  • Mandeville (Llundain: Faber and Faber, 2008).
  • "A Prophet as Unreliable Narrator: Rewriting Arise Evans", New Writing 7 (2) tt. 161-171 (2010).
  • "Editing W.S. Graham", Journal of British and Irish Innovative Poetry 4 (1) pp. 11–22 (2012).
  • Singing a Man to Death (Blaenau Ffestiniog: Cinnamon Press, 2012).
  •  "Rewriting Mandeville's Travels" yn J. Weiss., S. Salih. (gol.) Locating the Middle Ages: The Spaces and Places of Medieval Culture (Llundain: King's College London Medieval Studies Centre for Late Antique & Medieval Studies, 2012), tt. 227-235.
  • "A Difficult Home: Work, Love and Community in the Poetry of W.S. Graham and Philip Larkin", English Studies 94 (5) tt. 535-561 (2013).
  • Muscovy (Llundain: Faber and Faber, 2013).
  • The Book of the Needle (Blaenau Ffestiniog: Cinnamon Press, 2014).
  • The Mabinogi (Llundain: Faber and Faber, 2017)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Prof Matthew Francis, Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 21 Awst 2017.
  2. (Saesneg) Matthew Francis, poetryarchive.org. Adalwyd ar 21 Awst 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]