Marcia Wallace

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marcia Wallace yng Ngwobrau Emmy 1994.

Actores Americanaidd oedd Marcia Karen Wallace (1 Tachwedd 1942 – 25 Hydref 2013).[1]

Ganwyd yn Creston, Iowa. Ymddangosodd ar deledu yn gyntaf ym 1971 mewn pennod o Bewitched. Daeth i'r amlwg ar The Bob Newhart Show ac ymddangosodd hefyd yn The Love Boat, Magnum, P.I., Columbo, Murder, She Wrote, a Murphy Brown. Rhan enwocaf Wallace oedd Edna Krabappel, athrawes Bart Simpson yn y gyfres deledu animeiddiedig The Simpsons, ac enillodd Gwobr Emmy ym 1992 am y rôl hon.[2]

Bu farw yn 2013 yn 70 oed.[3] Talwyd teyrnged iddi gan neges arbennig ar y bwrdd du ar ddechrau pennod o The Simpsons.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Maume, Chris (7 Tachwedd 2013). Marcia Wallace: The voice of Bart's teacher Edna Krabappel since the start of 'The Simpsons'. The Independent. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2013.
  2. (Saesneg) 44th Primetime Emmys Nominees and Winner: Outstanding Voice-Over Performance. Emmys. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2013.
  3. (Saesneg) Gates, Anita (27 Hydref 2013). Marcia Wallace, Comic Actress on ‘The Simpsons,’ Dies at 70. The New York Times. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2013.
  4. (Saesneg) The Simpsons pays tribute to late actress Marcia Wallace. BBC (4 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2013.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: