Malabo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Malabo yn 2007

Malabo yw prifddinas Gini Gyhydeddol. Saif ar arfordir gogleddol ynys Bioko. Mae'r boblogaeth tua 100,000.

Sefydlwyd y ddinas gan y Prydeinwyr yn 1827, pan oeddynt yn dal ynys Bioko ar lês oddi wrth Sbaen, dan yr enw Port Clarence. Pan ddychwelwyd yr ynys i Sbaen, newidiwyd enw'r ddinas yn Santa Isabel. Yn 1996, fe'i dewiswyd yn brifddinas Gini Gyhydeddol, yn lle Bata ar y tir mawr. Newidiwyd ei henw eto i Malabo yn 1973, fel rhan o ymgyrch yr Arlywydd Francisco Macías Nguema i gael enwau Affricanaidd yn lle rhai Ewropeaidd.