Make Love Fuck War

Oddi ar Wicipedia
Clawr y sengl

Mae "Make Love Fuck War" yn gân wrth-ryfel gan y cerddor electronica Moby a'r grŵp hip hop Public Enemy. Cafodd y gân ei rhyddhau fel sengl yn 2004 ar label Mute Records[1] ac fe'i ceir hefyd yn yr albwm Unity: The Official Athens 2004 Olympic Games Album a'r albwm gan Public Enemy, New Whirl Odor. Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol fel protest yn erbyn Rhyfel Irac 2003; mae'r fideo gerddoriaeth yn cyfuno delweddau o'r protestiadau stryd yn erbyn y rhyfel yn 2002–2003 gyda chlipiau o gyngherddau gan Moby a Public Enemy.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Cyfansoddwyd geiriau'r gân gan Chuck D a Flavor Flav; cyfansoddwyd y gerddoriaeth i gyd gan Moby.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]