Mairead Corrigan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Corrigan yng Ngorffennaf 2009.

Ymgyrchydd dros heddwch ydy Máiread Corrigan (ganwyd 27 Ionawr, 1944), ac a adnabyddir hefyd fel Máiread Corrigan-Maguire. Sefydlodd gyda'i chwaer Betty Williams, Merched Dros Heddwch a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach yn Cymuned o Bobl Heddychlon (Saesneg: the Community of Peace People), mudiad sy'n ceisio annog atebion i broblemau Gogledd Iwerddon drwy heddwch. Cyflwynwyd y Wobr Nobel i'r naill chwaer a'r llall yn 1976.[1] Mae hi wedi derbyn nifer helaeth o wobrau eraill hefyd.

Troi ei threm tuag Israel[golygu]

Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn dadlau yn erbyn polisiau Israel yn y Dwyrain Canol, ac yn enwedig sefyllfa'r Palesteiniaid yn Llain Gaza. Roedd ar fwrdd y MV Rachel Corrie, cwch a oedd yn dilyn y chwe chwch a ymosodwyd arno gan filwyr Israel ar 31 Mai, 2010.

Ynghyd a'i chwaer Betty Williams, derbyniodd Wobr Nobel dros heddwch yn 1977 (am 1976) oherwydd eu gwaith diflino. Roedd hi'n 32 ar y pryd ac mae hi'n parhau i fod yr Enillydd Gwobr Nobel ieuengaf erioed.

Yn Ebrill 2009, beirniadodd Israel yn llym drwy ddatgan fod ei Llywodraeth yn gweithredu Polisi o "Lanhau ethnig yn erbyn y Palesteiniaid" a bod y Polisiau hyn yn torri Deddfau Rhyngwladol, yn groes i hawliau dynol ac yn lleihau urddas y Palesteiniaid.[2]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Nobel Peace Prize 1976 Nobel Foundation 2009 Adalwyd ar 08-07-2009
  2. Maguire blasts Israeli 'ethnic cleansing', Press TV, 22, Ebrill, 2009.