Hen boster am berfformiad o
Madama Butterfly
Mae Madama Butterfly (neu Madame Butterfly) ("Madam Butterfly") yn opera gan y cyfansoddwr Eidalaidd Giacomo Puccini (1858-1924).
Fe'i cynhyrchwyd am y tro cyntaf ym Milan yn 1904. Mae'r testun gan Giacosa ac Illica, seiledig ar y stori gan J. L. Long a'r ddrama gan Belasco.