MDMA

Oddi ar Wicipedia
MDMA
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathmethylenedioxyphenethylamines, amphetamines Edit this on Wikidata
Màs193.110279 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₁h₁₅no₂ edit this on wikidata
Yn cynnwyscarbon, hydrogen, nitrogen, ocsigen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Methylenedioxymethamphetamine

Mae MDMA (3,4-methylenedioxy-N-methamphetamine), sy'n cael ei adnabod yn aml fel ecstasi (neu wrth y talfyriadau E, X, neu XTC), yn aelod rhannol-synthetig o deulu'r amffetamin o gyffuriau seicoweithredol[1], yn îs-ddosbarth o'r ffenethylaminiaid.

Mae effeithiau arbrofol MDMA yn cyd-fynd a'r effeithiau a geir o'r rhan fwyaf o gyffuriau seicadelig. Caiff ei ystyried yn wahanol i gyffuriau eraill am ei fod yn creu awydd i glosio at bobl eraill a lleihad mewn teimladau o ofn a phryder. Mae'r effeithiau hyn wedi arwain at rai pobl i awgrymu efallai fod gan y cyffur fanteision therapiwtig i rai unigolion.

Cyn i ecstasi gael ei wneud yn sylwedd rheoledig, defnyddiwyd MDMA i gynorthwyo seicotherapi ond prin yw'r dogfennaeth o ganlyniadau hyn. Fodd bynnag, mae MDMA yn anghyfreithlon ymhob gwlad yn y byd o dan gytundeb yr Cenhedloedd Unedig, a gellir dwyn achos llys yn erbyn unrhyw un sy'n ei gynhyrchu, ei werthu neu sydd a'r cyffur yn eu meddiant.[2] MDMA yw un o'r cyffuriau anghyfreithlon a ddefnyddir fwyaf yn y byd [3] a chaiff ei ddefnyddio mewn ystod o amgylchiadau cwbl wahanol i ddefnydd gwreiddiol y cyffur ym myd seicotherapi. Yn aml, cysylltir ei ddefnydd a'r diwylliant "rave" a'r mathau o gerddoriaeth sy'n gysylltiedig â hynny.

Ceir cryn anghydweld ym myd gwyddoniaeth, meddygaeth a chylchoedd polisïau cyffuriau ynglŷn â pheryglon MDMA, yn enwedig y posibilrwydd o ddifrod niwrowenwynig i system nerfol canolog y corff. Mae nifer o awdurdodau rheolaethol mewn sawl lleoliad ledled y byd wedi caniatau astudiaethau lle rhoir MDMA i bobl er mwyn gweld ei botensial therapiwtig, neu yn amlach, er mwyn cael gweld ei brif effeithiau.[4]

Effeithiau[golygu | golygu cod]

Effeithiau byr-dymor[golygu | golygu cod]

Mae prif effeithiau cymryd MDMA yn gymharol gyson a gellir darogan ei effeithiau ymysg defnyddwyr.[5][6][7] Mae'r effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Ewfforia
  • Llai a ddrwgdeimlad ac ansicrwydd
  • Teimladau mwy agos at bobl eraill
  • Teimladau o empathi at eraill
  • Y gallu i drafod materion dadleuol yn ddi-ffwdan
  • Teimlad cryf o heddwch mewnol a hunan-dderbyniad
  • Teimlad o fewnwelediad ac eglurder meddyliol
  • Dwyshad yn y synhwyrau, yn enwedig propriodderbyniaeth, clywed a chyffwrdd
  • Llai o archwaeth bwyd
  • Dargadwedd troethol
  • Mydriasis - (ymledu abnormal o gannwyll y llygad)
  • Mwy o egni corfforol
  • Cynnydd yn nghyfradd y galon a phwysau gwaed
  • Cynnydd yn nhymheredd y corff

Gall effeithiau eraill gynnwys:

  • Dirywiad yn y cof tymor byr
  • Trisma - (yr ên yn cloi)
  • Bruxia - (rhincian dannedd na ellir ei reoli)
  • Nystagmus (symudiadau llygaid cyflym, na ellir eu rheoli)
  • Sawl awr o aflonydd-dra ar ôl yr effeithiau cychwynnol, weithiau gyda theimlad o ewfforia parhaus
  • Cyfnod o iselder cyffredinol ar ôl yr effeithiau cychwynnol, sydd gan amlaf yn dod i ben o fewn ychydig ddyddiau.
  • Golwg ychydig yn aneglur ar ôl yr effeithiau cychwynnol, sydd gan amlaf yn dod i ben ar ôl rhai dyddiau.

Mae'r siawns o gymhlethdodau difrifol yn cynyddu yn dibynnu ar faint o'r cyffur a gymerir, amgylchedd, faint o ymarfer corfforol a wneir, ac os cymysgir MDMA â chyffuriau eraill. Mae'r cymhlethdodau hyn yn cynnwys:

  • Hyperthermia (o ganlyniad i amgylchedd gormodol a/neu diffyg hydradiad a/neu seibiau o ymarfer corfforol, dawnsio gan amlaf)
  • Diffyg hydradiad (o ganlyniad i amgylchedd gormodol a/neu seibiau o ymarfer corfforol, dawnsio gan amlaf)
  • Hyponatremia (o ganlyniad i ryddhad o hormon gwrth-ddiwretig a/neu mewn-gymryd gormod o hylifau, sy'n gymhlethdod prin)
  • Syndrom Serotonin (credir mai oherwydd rhyddhad o ormod o serotonin, sydd weithiau'n cael ei achosi gan gyd-gymryd cyffuriau serotonergig eraill)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan MSD Archifwyd 2008-12-16 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009
  2. Where is Ecstasy legal? Adlwyd 17-03-2009
  3. Ecstacy Abuse Information Archifwyd 2009-02-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009
  4. Psychedelic Research Around The World Archifwyd 2013-12-03 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009
  5. http://www.erowid.org/chemicals/mdma/mdma_effects.shtml
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-21. Cyrchwyd 2009-04-07.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-28. Cyrchwyd 2009-04-07.
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.