MC Hammer
Oddi ar Wicipedia
| MC Hammer | |
|---|---|
MC Hammer yn TechCrunch ym mis Gorffennaf 2008 |
|
| Ganwyd | 30 Mawrth, 1962 Oakland, Califfornia, UDA |
| Enwau eraill | Stanley Kirk Burrell |
| Yn enwog am | U Can't Touch This |
| Galwedigaeth | Rapiwr, pregethwr, actor, dawnsiwr |
Rapiwr, diddanwr, dyn busnes, actor a dawnsiwr Americanaidd yw Stanley Kirk Burrell sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw llwyfan M.C. Hammer neu weithiau Hammer (ganed 30 Mawrth, 1962). Cafodd lwyddiant masnachol ar ddiwedd y 1980au tan ganol y 1990au. Mae'n adnabyddus hefyd am ei esgyniad sydyn i enwogrwydd cyn colli'r rhan fwyaf o'i ffortiwn bersonol. Ei gân fwyaf llwyddiannus oedd "U Can't Touch This", ond caiff ei gofio hefyd am ei ddawnsio a'i drowsus unigryw. Mae ef wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau yn fyd-eang.