Lusaka
Oddi ar Wicipedia
|
Lusaka
|
|
|---|---|
| Lleoliad Zambia | |
| Gwlad | Zambia |
| Ardal | Dinas Lusaka |
|
Llywodraeth
|
|
| Awdurdod Rhanbarthol | Dinas (1905) |
| Maer | Steven Chilatu |
| Pencadlys | Neuadd y Ddinas, Lusaka |
|
Daearyddiaeth
|
|
| Arwynebedd | 70 km² |
| Uchder | 1300 m |
|
Demograffeg
|
|
| Poblogaeth (Cyfrifiad 200) | 1,084,103 |
| Dwysedd Poblogaeth | /km2 |
| Metro | |
|
Gwybodaeth bellach
|
|
| Cylchfa Amser | |
| Cod Post | |
| Gwefan | |
Prifddinas a dinas fwyaf Zambia yn ne Affrica ydy Lusaka. Mae'n gorwedd yn rhan ddeheuol llwyfandir canolbarth y wlad, ar uchder o 1300m (4256 troedfedd). Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 1,084,703 (cyfrifiad 2000), ac mae'n cael ei hystyried yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu'n gyflymach (o ran poblogaeth) yn Affrica gyfan. Mae'n ganolfan fasnachol ynghyd â sedd llywodraeth Zambia, gyda phedair traffordd fawr y wlad yn cychwyn ohoni i gyfeiriad y gogledd, dwyrain, de a'r gorllewin.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: