Kigali

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Kigali.

Kigali yw prifddinas a dinas fwyaf Rwanda. Roedd y boblogaeth yn 2005 tua 850,000.

Sefydlwyd Kigali yn 1907, pan oedd y wlad yn eiddo i'r Almaen, gan Richard Kandt. Yn 1962, daeth yn brifddinas Rwanda; symudwyd y brifddinas o Butare oherwydd fod Kigali yn fwy canolog.

O 7 Ebrill 1994 ymlaen, bu Kigali yn un o'r lleoedd lle'r oedd Hil-laddiad Rwanda ar ei waethaf. Lladdwyd nifer fawr o'r trigolion Tutsi, a bu ymladd yn y ddinas. Ers hynn y, mae'r ddinas wedi datblygu yn sylweddol, gyda llawer o adeiladau newydd.