Lu Xun
Oddi ar Wicipedia
| Lu Xun | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Medi, 1881 Shaoxing, Zhejiang, |
| Bu farw | 19 Hydref, 1936 |
| Galwedigaeth | Bardd, cyfieithydd, golygydd |
Ffugenw Zhou Shuren (Tsieineg syml: 周树人; Tsieineg traddodiadol: 周樹人) oedd Lu Xun (Tsieineg syml: 鲁迅; Tsieineg traddodiadol: 魯迅) neu Lu Hsün (Wade-Giles) (ganed 25 Medi, 1881 – 19 Hydref, 1936). Roedd yn un o brif lenorion Tsieina yn ystod yr 20fed ganrif. Fe'i ystyrir yn sylfaenydd llenyddiaeth Tsieineg modern, ac ysgrifennodd mewn baihua (白話) (iaith lafar) yn ogystal â Tsieineg clasurol. Ysgrifennai straeon byrion yn ogystal â bod yn olygydd, cyfieithydd, beirniad, traethodydd a bardd. Yn ystod y 1930au, ef edd pennaeth y Gynghrair Tsieiniaidd o Ysgrifennwyr Adain-Chwith yn Shanghai.