Lowri Cynan

Oddi ar Wicipedia
Lowri Cynan
GanwydY Betws Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, athro ysgol uwchradd Edit this on Wikidata

Athrawes ac awdur o Betws, Rhydaman yw Lowri Cynan.

Mynychodd yr ysgol gynradd Gymraeg leol, ac ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Aeth i Brifysgol Bangor lle astudiodd am radd gyfun mewn Drama a Chymraeg, ac yna i Brifysgol Cymru Caerdydd i ddilyn cwrs ymarfer dysgu. Cafodd ei swydd gyntaf fel pennaeth Adran Ddrama Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac yna symudodd i Ysgol Llanhari fel pennaeth adran, cyn symud i Ysgol Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Mae hi'n cyfarwyddo sioeau a chydweithio gydag athrawon ar gynyrchiadau amrywiol.

Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Codi'r Llenni: Mewn Limbo - Sgript a Gweithgareddau gan Y Lolfa yn 2007.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lowri Cynan ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.