Loch Coiribe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pysgotwyr ger Cong.

Loch Coiribe (Saesneg: Lough Corrib) yw llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon a'r ail-fwyaf ar ynys Iwerddon ar ôl Lough Neagh. Saif yng ngorllewin y wlad, gydag Afon Coiribe yn ei gysylltu a'r môr ger Galway. Mae ganddo arwynebedd o 200 km².

Mae Loch Coirib yn deillio o Loch nOirbsean, wedi ei enwi ar ôl Orbsen Mac Alloid, enw arall ar Manannán Mac Lir, duw y môr. Gelwir ef hefyd yn An Choirib.

Adeiladwyd camlas gyntaf Iwerddon yma yn y 12fed ganrif, i gysyllru'r llyn a'r môr gel Galway. Yn 2007, canfuwyd niferoedd uchel o Cryptosporidium yn ei ddyfroedd, a effeithiodd ar gyflenwad dŵr dinas Galway. Cyhoeddwyd y llyn yn Safle Ramsar yn 1996.