Local Government Association

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y Local Government Association neu'r LGA (enw Cymraeg answyddogol: 'Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr') yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Fe'i sefydlwyd yn 1997. Lleolir ei phencadlys yn Sgwâr Smith, Llundain.

Cynnwys

Strwythur [golygu]

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn aelod cyswllt o'r LGA am fod Cymru yn cael ei chynnwys gyda Lloegr o hyd am rai materion gweinyddol a chyfreithiol (gweler Cymru a Lloegr), er gwaethaf datganoli. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA.[1] Rhennir yr LGA yn rhanbarthau Seisnig gyda Chymru yn cael ei hystyried yn "rhanbarth" ar wahân.[2] Does dim cymdeithas llywodraeth leol ar gyfer y DU gyfan: yn yr Alban ceir y Convention of Scottish Local Authorities ac yng Ngogledd Iwerddon ceir 'Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon' (Northern Ireland Local Government Association).

Cyfeiriadau [golygu]

Dolen allanol [golygu]

Gweler hefyd [golygu]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato