Llyn Zaysan
Oddi ar Wicipedia
Llyn dŵr croyw, tua 1,810 km² (700 milltir²), yn nwyrain Kazakstan yw Llyn Zaysan (Casaceg: Зайсан көлі; Rwseg: озеро Зайсан). Mae'n gorwedd mewn pant rhwng Mynyddoedd Altai a Tarbagatai.
Yn gorwedd ar uchder o 420 m, mae gan y llyn hyd o 105 km a lled o 22–48 km, a dyfnder o ddim mwy na 15 m. Y prif afonydd i lifo iddo yw afonydd Kara-Irtysh (Irtysh Ddu) a Kendyrlyk, ac mae Afon Irtysh (neu Afon Irtysh Wen), un o afonydd mwyaf Siberia, yn llifo allan ohono. Ceir llawer o bysgod ynddo.