Llyn Onega

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Onega
La2-demis-onega.png
Lleoliad Rwsia
Cyfesurynnau 61°30′Gog 35°45′Dwy
Tarddiadau Cynradd Shuya, Suna, Vodla, Vytegra, Andoma
All-lifoedd Cynradd Svir
Arwynebedd 9,894 km²
Dyfnder Mwyaf 120 m
Cyfaint Dŵr 280 km³
Dyrchafiad Arwyneb 33m
Ynysoedd 1369 ynys


Llyn yng ngogledd-orllewin Rwsia a llyn ail fwyaf Ewrop yw Llyn Onega (Rwsieg Онежское озеро / Onezhskoe ozero; Kareleg Ääninen neu Äänisjärvi). Mae ei arwynebedd yn gorchuddio 9,894 km2. Ar ei ddyfnaf, ei ddyfnder yw 120m. Mae'n cynnwys 1369 o ynysoedd gydag arwynebedd o 250 km2. Mae 58 is-afon yn llifo i mewn iddo. Y prif is-afonydd yw'r Shuya, Suna, Vodia a'r Andoma. Lleolir Petrozavodsk, prifddinas Gweriniaeth Karelia ar lannau gorllewinol y llyn. Mae Karelia yn amgylchynu'r llyn ar dair ochr (yn y gogledd, y gorllewin a'r dwyrain). Yn y de, mae'n ffinio ag Oblast Leningrad yn y gorllewin ac Oblast Vologda yn y dwyrain.

Darlun angorfa ar Lyn Onega (Sergey Mikhailovich Prokudin-Gorsky, rhwng 1909 a 1915)

Saif pogost Kizhi ('lloc, amgaead Kizhi'), Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar Ynys Kizhi yn y llyn. Adeiladwyd dwy egwlys bren yno yn yr 18fed ganrif, ac ychwanegwyd chlochdy pren wyth ochr yn 1862.