Llyn Disappointment

Oddi ar Wicipedia
Llyn Disappointment
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd1,500 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr325 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.5°S 122.83°E Edit this on Wikidata
Hyd160 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Llyn Disappointment yn llyn hallt tymhorol mewn ardal anghysbell o dalaith Gorllewin Awstralia a elwir yn Ddiffeithwch Gibson.

Cafodd ei enwi'n Llyn Disappointment gan y fforiwr Frank Hann yn 1897. Roedd Hann yn yr ardal i ymchilio ardal dwyrain Pilbara, o gwmpas Afon Rudall. Sylweddolodd fod sawl afonig yn yr ardal honno yn llifo i gyfeiriad canol y wlad yn hytrach nag i gyfeiriad y môr (sydd 450 km i ffwrdd i'r gorllewin), ac fe'i dilynodd yn y gobaith o ddarganfod llyn dŵr croyw mawr. Ond er mawr siomedigaeth iddo, roedd dŵr y llyn yn hallt.

Ceir nifer o rywogaethau o adar y dŵr ar y llyn.

Llun Landsat NASA o Lyn Disappointment

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]