Llyn Como

Oddi ar Wicipedia
Llyn Como
Mathglacial lake Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthern Italian lakes Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd145 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr198 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46°N 9.2667°E Edit this on Wikidata
Dalgylch4,572 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd46 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAlpau Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Como (Eidaleg: Lago di Como neu Lario). Gydag arwynebedd o 146 km², ef yw ail lyn yr Eidal o ran maint. Mae'n 410 medr o ddyfnder yn ei ran ddyfnaf, ac felly dyma'r llyn dyfnaf yr Eidal.

Saif y llyn ger Llyn Maggiore a Llyn Lugano, mewn ardal fynyddig, yn agos i'r ffin â'r Swistir, 198 medr uwch lefel y môr. Yr uchaf o'r mynyddoedd o'i gylch yw Monte Legnone (2609 m).

Yr afon fwyaf sy'n llifo i'r llyn yw afon Adda, sy'n dod i mewn iddo yn y gogledd, ger Colico ac yn llifo allan yn y de-ddwyrain ger Lecco.

Ceir ynys fechan, Isola Comacina, yn y llyn.

Y dref fwyaf ar lan y llyn yw Como. Ynhlith y trefi eraill y mae Cernobbio, Gravedona, Bellano, Varenna, Bellagio a Menaggio. Mae cymunedau Varenna, Lierna, Bellagio, Menaggio, Limonta a Tremezzo, sy'n cynnwys y pentrefi sydd â golygfa o benrhyn Bellagio, yn ffurfio’r ardal ddaearegol o Centro Lago, sy'n cael ei hystyried fel y rhan fwyaf dethol o Llyn Como.

Llyn Como
Llyn Como o Bellagio