Llinos Medi

Oddi ar Wicipedia
Llinos Medi
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Etholiad Cyngor Ynys Môn, 2022.

Mae Llinos Medi Huws yn gynghorydd yn Ynys Môn gan gynrychioli Plaid Cymru. Mae hi hefyd yn ymgeisydd dros y Blaid yn Ynys Môn ar gyfer etholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng Nghymru.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Magwyd Llinos medi yn Ynys Môn a magodd dau o blant ei hun ar yr ynys. Treuliodd chwech mlynedd fel arweinydd cyngor Ynys Môn.[1]

Yn 2020, dewiswyd Llinos fel un o 100 o fenywod Cymru i'w dathlu ar ddiwrnod rhyngwladol menywod yn 2020.[2]

Yn Hydref 2023, cadarnhawyd Llinos Medi fel ymgeisydd San Steffan i Blaid Cymru yn Ynys Môn.[3]

Yn ôl arolwg barn gan Survation yn Chwefror 2024, roedd Llinos Medi ar y blaen i ennill sedd Ynys Môn gyda 39% o'r bleidlais. Roedd Llafur ar 27%, y Ceidwadwyr ar 26% (yn dal y sedd yn bresennol) a Diwygio ar 4%.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mansfield, Mark (2023-09-21). "Llinos Medi seeks nomination as Plaid Cymru candidate for Ynys Môn at next general election". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
  2. "Anglesey Council leader Llinos is included in list of 100 Welsh women for International Women's Day 2020". North Wales Chronicle (yn Saesneg). 2020-03-11. Cyrchwyd 2024-02-01.
  3. Mansfield, Mark (2023-10-03). "Llinos Medi confirmed as Plaid Cymru's candidate for Ynys Môn at next general election". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
  4. Mansfield, Mark (2024-02-01). "Double opinion poll boost for Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]